Rhywbeth 'ffishi'!!
Cyfle i chi eu henwi!
Pysgod C2
Aelodau newydd i dim C2
Yr wythnos yma croesawodd criw C2 aelodau newydd i'r tim - pump o bysgod aur! I lawer ohonoch, dyw pysgod aur yn ddim byd mwy na phethau dwl sydd yn nofio trwy'r dydd a ddim yn cofio dim byd am fwy na phump eiliad... ond mae pysgod C2 yn wahanol - mae nhw yn sbeshial!
Dros yr wythnosau a misoedd nesaf bydd cyfle i chi ddod i adnabod y pysgod, gan y byddant yn ymddangos mewn fideo wythnosol byr fydd i'w lawrlwytho o'r wefan.
Gallwch gael rhagor o fanylion ar y pysgod, gweld eu proffeiliau a gwylio'r fideo drwy glicio ar yr eiconau isod:
Proffeiliau y Pysgod
Beth yw eu hoff fwyd?
Fideos Wythnosol
Beth ddigwyddodd wythnos yma?
Lluniau
Galeriau y pysgod
Os ydych chi am awgrymu enw ar gyfer un o'n ffrindiau newydd, cysylltwch a ni drwy e-bostio c2@bbc.co.uk.