 |
Zabrinski...
Caerdydd Ebrill 2006
Dafydd Williams
Lle a phryd?
Gwesty'r Riverbank, Caerdydd - Nos Wener Mawrth 31ain
Y Bandiau?
Zabrinski
Enw'r adolygydd
Dafydd Williams
Awyrgylch?
Er fod clwb y gwesty yn ymdebygu i ogof cyfyng, roedd yna awyrgylch hamddenol, cyffrous am y noson. Erbyn i'r grwp ymddangos, roedd y clwb bach tywyll wedi ei drawsnewid i mewn i loches swynol. Braf oedd gweld fod rhan fwyaf o'r gynulleidfa wedi dod yn benodol i weld Zabrinski
Trac y noson?
Yn bendant "Feeding on our Filth", cân sy'n brydferth ac yn gythryblus (fel bywyd yn gyffredinol!)
Disgrifiwch y perfformiad
Perfformiad tynn, aeddfed a hyderus. Roedd y grwp yn amlwg yn mwynhau eu hunain - sy'n bwysig o ran cyfathrebu gyda'r gynulleidfa.
Ma' digon o sôn wedi bod ynglyn â perfformiadau byw bler y grwp, ond, Zabrinski taclus, pefriol a welais i.
Uchafbwynt y noson?
Clywed "Ill Gotten Game" yn fyw. Engraifft pur o ddawn telynegol y grwp i gyfuno'r digrif a'r difrif.
Beth sy'n aros yn y cof?
Y gwen ar wynebau pawb (yn cynnwys y grwp)
Y peth gwaethaf am y noson?
Ei ddiwedd
Achlysur roc a rôl?
Roedd brenhiniaeth Roc a Rol yn bresennol. (Rhan fwyaf o aelodau Super Furry Animals.)
Beth sy'n aros yn y cof?
Heb os nag oni bai set Zabrinski yn ei gyfanrwydd!
Marciau allan o ddeg?
9
Un gair i ddisgrifio'r gig?
Poptechnotastic
Unrhyw sylwadau eraill?
Ma' Zabrinski yn swyno ac yn brathu bob un o'r synhwyrau
|
|