 |
Radio Lux, Pwsi Meri...
Aberystwyth, Chwefror '06 Hefin Karadog
Lle a phryd
Harleys, Aberystwyth. Chwefror 11, 2006
Y bandiau
Radio Luxembourg, Pwsi Meri Mew Movement, Persona B
Enw'r adolygydd
Adolygiad gan Hefin Karadog
Awyrgylch
Doeddwn i ddim yn hollol siwr sut byddai gig yn gweithio yn Harleys, ond diolch i gynulleidfa a cherddoriaeth dda, roedd yr awyrgylch yn drydanol.
Trac y Noson
Anodd dewis rhwng fersiwn 'PMM' o Kinky Reggae a Pobol y Piws gan Radio Lux. Llwyddodd y ddwy gân i ddod a'r gynulleidfa at ei gilydd am amser da.
Disgrifiwch y perfformiadau
DJ Illegitimate Persian Cat - Set da i lewni'r bylchau rhwng y bandiau, ynghyd â Rhys Spikes, syniad da oedd cael y DJs i gadw'r momentwm i fynd.
Persona B - Nid band gorau'r noson o bell ffordd, yn anffodus roedd caneuon da yn cael eu difetha ychydig gan y canwr, mae ei lais yn union fel canwr Nickleback, nid un o fy hoff grwpiau a dweud y lleiaf. Er hyn, maen't yn gerddorion talentog, ac er fy marn i roedd eu sain yn broffesiynol iawn a'r perfformiad yn dynn.
Pwsi Meri Mew - Mae'r band yma'n mynd o nerth i nerth, y gig cyntaf hyd y gwn i gyda'r aelodau newydd, mae eu set yn ffynci a bywiol. Mae nhw'n amlwg yn mwynhau eu hunain ar y llwyfan, a gyda chaneuon fel Y Gnawas a Petha Bach, anodd byddai peidio cael amser da. Gobeithio bydd gan rhywun yng Nghymru synnwyr cyffredin a mynd a'r band i stiwdio er mwyn iddynt rhyddhau record neu ddwy.
Radio Luxembourg - Band y noson, nhw gafodd yr ymateb orau o'r gynulleidfa, ac maen't wedi dod i'r amlwg fel un o brif fandiau'r sîn roc yng Nghymru. Mae eu caneuon yn rhai y mae'r bobl yn gallu uniaethu â nhw, er fod rhai o'r geiriau braidd yn od (Lisa, Magic a Porva??), ond gwell cael geiriau od na geiriau diflas heb ddychymyg. Gobeithio bydd albwm yn ymddangos cyn bo hir, a llawer mwy o berfformaidau ysbrydoledig.
Uchafbwynt y noson
Y ffaith fod Harleys yn le da iawn i gynnal gigs, mae hyn yn ymestyn yr opsiynau sydd ar gael yn Aber.
Y peth gwaethaf am y noson
Anodd dweud, heb fod yn gas, rhaid dweud mae llais canwr Persona B
(adlewyrchiad da o'r safon ar y noson, gan nad yw ei lais yn uffernol, ond nid y math o lais sy'n fy mlesio!)
Beth sy'n aros yn y cof?
Y dorf, mae fel petai'r bobl yn dod i glywed cerddoriaeth y dyddiau yma, nid dim ond er mwyn meddwi.
Talent gorau'r noson?
Alun Gaffey, prif leisydd Pwsi Meri Mew a gitarydd Radio Lux, mae gan y foi ddawn cyfansoddi yn ogystal a pherfformio.
Marciau allan o ddeg
9
Cysylltiadau'r we Sesiwn Radio Luxembourg i C2
My Space Radio Luxembourg
www.pwsimerimew.com
Mwy am Persona B
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|
|