 |
Ashokan, Mattoidz
Cwmaman, Chwefror 2006 Gwawr Loader
Lle a phryd
Y Sefydliad, Cwmaman - Nos Wener Chwefror 10fed, 2006. Gig C2 a CIC (Cynllun Ieuenctid y Cymoedd).
Y bandiau
Naked Threat, Mattoidz ac Ashokan
Enw'r adolygydd
Gwawr Loader
Awyrgylch
Gan ei bod hi'n le eitha' mawr, roedd hi ychydig yn anffodus i weld cyn lleied o bobl yn y gynulleidfa, ond roedd yr ychydig oedd yno wedi mwynhau, a cafodd pob band ymateb da. Grŵp bach o bobl lleol oedd yno, ond roedd hi'n gyfle da i ni fwynhau gig yn yr ardal heb deithio'n rhy bell!!
Disgrifiwch y perfformiadau:
Naked Threat - Yn anffodus, gig olaf Naked Threat oedd hi. Roedd bois y Cymer wedi llwyddo cyfieithu rhai o oreuon Stereophonics i'r Gymraeg (tipyn o her!) ac roedd eu cân wreiddiol 'Cythrel' yn amlwg wedi creu argraff dda ar y gynulleidfa!
Mattoidz - Eto, perfformiad gwych gan Mattoidz (er bod string ar gitâr Hefin wedi torri yng nghanol y set)!! Digon o egni, digon o sbort, ac roedd eu perfformiad o 'Sos Coch' yn hollol ffantastic!
Ashokan - Lot o egni, lot o frwdfrydedd ac er gwaethaf rhai aelodau'r gynulleidfa'n gweiddi am 'Amarillo', llwyddodd Ashokan roi perfformiad proffesiynol ac adlewyrchwyd eu talent fel band!!
Trac y noson
'Sos Coch' - Mattoidz, heb os! Wastad yn llwyddo cynhyrfu'r gynulleidfa, a doedd y tro 'ma ddim yn eithriad !!
Y peth gwaethaf am y noson
Cynulleidfa braidd yn fach ac ychydig yn dawel ar ddechrau'r noson.
Achlysur Roc a Rol
Yng Nghwmaman?!! Dim un os ydw i'n cofio'n iawn!
Beth sy'n aros yn y cof?
Gofyn i Mattoidz os oedden ni'n gallu cael eu drumsticks...a wedyn eu rhifau ffôn!!
Talent gorau'r noson
Mattoidz o achos eu hegni a'u perfformiad hollol amazing!
Marciau allan o ddeg
8/10
Un gair am y gig
Gwych!
Unrhyw sylwadau eraill? Cynghorion? Rhybuddion?
Rhybudd: Mae grisiau sefydliad Cwmaman yn gallu bod yn serth ar ôl cwpwl o ddrincs!
Lincs Gwefan Sesiwn Mattoidz
www.mattoidz.com
My Space Mattoidz
My Space Ashokan
Sefydliad Cwmaman
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
|
|