 |
Radio Lux, Jen Jeniro
Aberystwyth, Tach 2005 Gwenno Dafydd
Lle a phryd
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, 19 Tachwedd. Gig lansio sengl Radio Luxembourg Pwer y Fflwer/Lisa, Magic a Porva.
Y bandiau a'r adolygwr
Adolygiad Gig Radio Luxembourg, Jen Jeniro a'r Lladron gan
Gwenno Dafydd
Awyrgylch
Ystafell gron, eithaf bach a cosy a oedd bron yn llawn. Do'n i erioed wedi bod i gig yn yr ystafell honno o'r blaen, ond roedd e'n lle grêt ar gyfer gig, a licen i weld mwy yn cael eu cynnal yna.
Trac y noson
Lisa, Magic a Porva, Radio Lux. Roedd hi'n amlwg o'r ymateb pan ddechreuodd y gân fod y ffans wedi bod yn edrych ymlaen at ei chlywed, yn enwedig gan fod y fideo wedi bod yn gymaint o lwyddiant ar Bandit.
Disgrifiwch y perfformiadau
Y Lladron
Yn DJ'o rhwng y bandiau gyda chaneuon ffynci, ac ystod eang o artistiaid, o Manu Chao i'r Bee Gees.
Jen Jeniro
Y tro cyntaf i mi weld y band ifanc yma, ac fe ges i fy mhlesio. Perfformiad da gyda chaneuon mewn gwahanol arddulliau, a defnydd diddorol o sosban fel drwm! Nathon nhw fersiwn da o glasur y Gorky's 'Iechyd Da'.
Radio Luxembourg
Perfformiad egnïol iawn oddi wrth brif gymeriadau'r noson. Set eithaf rocky, ac roedd hi'n amlwg fod y band yn mwynhau eu hunain. Roedd y gynulleidfa'n sicr yn mwynhau, gyda tua 15 moshwr dewr yn neidio o gwmpas yn wyllt yn y gofod cyfyng rhwng y llwyfan a'r cadeiriau!
Uchafbwynt y noson
Set Radio Lux - bril! (Hefyd, cael copi o'r sengl am bris arbennig o £1! Bargen!)
Y peth gwaethaf am y noson
Y stamp i brofi eich bod chi wedi talu ddim yn ymddangos yn glir! Do'n i methu gweld f'un i o gwbl - siom!
Achlysur roc a rôl
Prif leisydd Jen Jeniro yn cyhoeddi fod y gig yn achlysur i ddathlu fod Bryn Fôn wedi cwympo allan o 10 uchaf siart C2 am y tro cyntaf ers y Rhyfel Byd Cyntaf!
Beth sy'n aros yn y cof?
Y defnydd o'r sosban, y golau gwyrdd atmosfferig oedd yn goleuo'r llwyfan, a'r ffaith fod yr ystafell yn grwn!
Talent gorau'r noson
Radio Luxembourg - gig grêt arall! Ond Jen Jeniro yn bendant â photensial ar gyfer y dyfodol.
Marciau allan o ddeg
8/10
Un gair am y gig
Crwn!
Unrhyw gyngor neu sylwadau eraill?
Prynwch sengl Radio Lux 'Pwer y Fflwer/Lisa, Magic a Porva'...nawr!
Cysylltiadau'r we Sesiwn C2 - Radio Luxembourg
|
|