 |
Ashokan, Poppies...
Caerdydd, Meh 2005 Rhys Teifi
Lle a phryd, ac enw'r adolygwr
Y Point, Bae Caerdydd. 03/06/05. Adolygiad gan Rhys Teifi
Y bandiau
Ashokan, Poppies a Radio Luxembourg.
Awyrgylch
Hen eglwys ydy'r Point wedi ei adnewyddu yn leoliad gigiau unigryw. Yn anffodus roedd y gig yn weddol dawel, ond roedd y gynulleidfa a oedd yna oll yn gwerthfawrogi y perfformiadau.
Trac y noson
I mi, cân orau y noson oedd Jac y Diawl gan Ashokan. Roedd Rhys (y prif leisydd newydd ers i Alun adael) yn amlwg wrth ei fodd yn canu hon, ac roedd y perfformiad yn llawn egni.
Disgrifiwch y perfformiadau...
Radio Luxembourg: Cerddoriaeth trwm ac uchel gyda melodiau hyfryd. Perfformiad gwych gan y band ifanc yma. Y prif leisydd yn llawn egni ac efo'r gallu i ddiddanu y gynulleidfa. Poppies: Rwyf wedi gweld Sam (y prif leisydd) yn gwneud nifer o gigiau ar ben ei hun ac roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr i'w weld â band llawn, ond cefais fy siomi. Er bod y caneuon yn dda, doedd dim digon yn y perfformiad i mi. Ashokan: Heb os, band byw gorau Cymru ar hyn o bryd. Ma'r bois yma yn gwybod yn iawn sut i'w gwneud hi. Caneuon gwych rhywsut yn well wrth i'r basydd wneud ei orau i ddringo mor uchel ag y medrith tra'n chwarae, a'r band cyfa yn cael hwyl gyda'i gilydd wrth chwarae. Gwych.
Y peth gwaethaf am y noson
Bod dim digon yn y gynulleidfa.
Achlysur Roc a Rol
Basydd Ashokan yn chwarae heb grys ac yn neidio oddi ar wahanol bethau. (Dim bod hyn yn unigryw am y gig hwn!)
Beth sy'n aros yn y cof?
Perfformiad Radio Luxembourg. Band am y dyfodol yn sicr.
Talent gorau'r noson
Radio Luxembourg
Marciau allan o ddeg
9
Un gair am y gig
Tew!
|
|