 |
Manna, Sam Poppies
Aberystwyth, Gorff 2005 Esyllt Dafydd
Lle a phryd
Y Cŵps, Aberystwyth. 13eg Gorffennaf 2005
Y bandiau
Manna, Sam (Poppies)
Disgrifiwch yr awyrgylch a'r perfformiad
Rhyw 30 o bobl, a llawer yn adnabod ei gilydd ac yn adnabod y perfformwyr. Crëodd hyn awyrgylch gartrefol. Roedd y gynulleidfa'n ymateb yn dda i'r caneuon, ac yn canu i'r rhai cyfarwydd.
Trac y noson
Manna: Diolch. Doeddech chi methu peidio a gwrando i'r gân hon. Rhaid oedd rhoi taw ar sgwrs a rhoi eich diod i lawr. Sain tyner ac addfwyn i'r gân hon yng nghanol awyrgylch blith-drafflith y Cŵps.
Disgrifiwch y perfformiadau
Sam: Perfformiad cadarn a llawn egni - yn gymysgedd o ganeuon y Poppies a rhai 'covers'.Manna: Cymysgedd o ganeuon tawel a bywiog. Anodd clywed y lleisiau i ddechrau, ond gwellodd hyn wrth i'r caneuon fynd yn eu blaen. Hyder y perfformwyr yn amlwg yn eu perfformiad.
Uchafbwynt y noson
Doedd yna ddim un uchafbwynt penodol - noson o berfformiadau cyson.
Y peth gwaethaf am y noson
Buasai wedi bod yn neis gweld y Poppies i gyd yn perfformio, ond fe wnaeth Sam y tro yn iawn.
Achlysur Roc a Rol
Crys-T Sam
Beth sy'n aros yn y cof?
Lleisiau cantorion Manna.
Talent gorau'r noson
Sam yn dalent hyderus, a pherfformiad Manna'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.
Marciau allan o ddeg
7/10
Un gair am y gig
Neis
|
|