Baccta' Crackin'
Ebrill 2004
Texas Radio Band - Baccta' Crackin'
4 mlynedd ers rhyddhau'r albym-fer 'Y Tywysoges' mae'r band o Gaerfyrddin, Texas Radio Band, newydd ryddhau eu halbym diweddaraf - Baccta' Crackin' - y record gyntaf i gael ei ryddhau ar label newydd Recordiau Slacyr.
Mae'r albym yn cynnwys 11 trac Cymraeg a Saesneg gan gynnwys clasurol fel 'Fideo Hud' a 'Chwaraeon' - traciau gafodd eu recordio'n wreiddiol fel sesiwn i ni ar C2, Radio Cymru. Daeth Meilir Gwynedd, gitarydd y diweddar Big Leaves ac aelod o'r grwp newydd Third Light, a'r gantores Angharad Bizby i stiwdios C2 at Huw Stephens i adolygu 'Baccta Crackin' ar Ebrill 6.
Gwrandewch ar adolygiad o Baccta' Crackin'
Wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno gyda Meilir ac Angharad? E-bostia unrhyw sylwadau am Texas Radio Band - Baccta' Crackin' at c2@bbc.co.uk.