BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Nôl i'r dudalen gartref
swyddi sgiliau hyfforddiant addysg uwch addysg bellach

BBC Homepage
Addysg
» Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad
English
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
 
David Treadwell

Astudio Gradd Gyfun

Oed: 29

Coleg neu Brifysgol:
Mi wnes i astudio Bioleg Môr /Eigioneg ym Mhrifysgol Bangor. Fel myfyriwr aeddfed, roedd gen i eisoes 11 mlynedd o brofiad yn y byd mawr. Mi wnes i dreulio'r cyfnod yma i gyd fel Prif Is-Swyddog a Thechnegydd Peirianneg Môr yn y Llynges, yn gweithio'n bennaf ar longau tanfor niwclear.

Dychwelyd i'r brifysgol:
Roeddwn i'n anhapus ynglyn â pha mor bellach y gallwn i ddatblygu fy ngyrfa yn y Llynges ac mewn Peirianneg, ac roeddwn i'n meddwl y dylwn i fentro i faes newydd o ddiddordeb tra'r oedd cyfle gen i.

Pynciau a astudiwyd:
Yn amlwg, roedd gen i ddiddordeb mewn Bioleg Môr o'm cyfnod yn y Llynges, ac roeddwn i eisiau dysgu mwy am anifeiliaid y môr. Hyd yn oed nawr, dwi ddim o reidrwydd eisiau gweithio yn y maes - dwi'n gobeithio mentro fel ymgynghorydd rheoli!

Y cwrs:
Yn wreiddiol, mi ges i 'nerbyn i wneud gradd sengl mewn Bioleg Môr. Fel myfyriwr aeddfed, ches i fawr o broblemau'n cael fy nerbyn. Ar ôl astudio Bioleg Môr am rai misoedd, mi wnes i benderfynu newid i wneud gradd gyfun mewn Bioleg Môr ac Eigioneg, a hynny am fod gwaith yn brin ym maes Bioleg Môr a mod i'n meddwl y byddai'n gyfuniad gwell. Dwi hefyd yn teimlo bod cyflogwyr y dyddiau yma yn fwy awyddus i ddod o hyd i weithwyr cyffredin nac arbenigwyr.

Gradd gyfun:
Mae dwy ran y cwrs yn ategu'i gilydd, ac mewn gwirionedd, dwi'n ei chael hi'n anodd dirnad sut mae modd deall un heb y llall. O ran pwysau gwaith, mae'r ddau gwrs yn rhannu i lawr y canol.

Roeddwn i'n poeni y byddai gwneud gradd gyfun yn golygu dwywaith y pwysau gwaith, ond mewn gwirionedd, mae'r baich gwaith wedi ei drefnu fel ei fod yn debyg i faich gwaith gradd sengl yn y naill bwnc neu'r llall. Dwi yma i ddysgu, felly roeddwn i am gyfuno fy niddordeb mewn Bioleg Môr gydag agweddau 'sicrwydd swydd' Eigioneg.

Cyngor:
Mae'n gam positif, felly os ydych chi'n meddwl mai dyna rydych chi am ei wneud, wnewch chi ddim difaru.

 
English

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
Sêr
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Cam nesa...
Addysg Uwch
Dewis pynciau



top

swyddi

sgiliau

hyfforddiant

add. uwch

add. bellach

sgwrs


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy