| |
Dewis cyrsiau AU – rhestr
wirio
- Beth yw cynnwys y cwrs? Ai dyma be dwi am ei wneud?
- Pa rannau o’r cwrs sy’n orfodol a pha rai sy’n
ddewisol?
- Faint o fodiwlau gwahanol sydd yna i ddewis o’u
plith bob blwyddyn?
- Fydd rhaid i mi gymryd pynciau atodol?
- Pa mor hyblyg yw’r cwrs?
- Fedrwn i newid i rywbeth arall pe bawn i’n newid
fy meddwl?
- Sut mae’r cwrs yn cael ei ddysgu? Fydd fy ngwaith
i’n cael ei asesu? Arholiadau neu waith cwrs neu’r ddau?
- Sut gyfleusterau sydd yna – llyfrgelloedd, labordai,
cyfrifiaduron?
- Os mai cwrs galwedigaethol yw hwn, a yw wedi ei
‘achredu’ gan gyrff proffesiynol? A fydd yn golygu mod i’n cael fy esgusodi rhag sefyll rhai arholiadau
proffesiynol?
- Faint sy’n ymadael â’r cwrs hwn ar ei hanner?
- Ydy graddedigion o’r cwrs hwn yn cael swyddi?
|
RHYBUDD
IECHYD!
|
Gall
enwau cyrsiau fod yn gamarweiniol. Gall cyrsiau gyda’r un enw fod yn wahanol iawn tra bo cyrsiau gydag
enwau gwahanol yn gallu bod yn debyg iawn! Paid â chymryd dim yn ganiataol – edrycha’n fanwl ar gynnwys
cyrsiau yn y prosbectws.
|
|
|
|
|