| |
Talu am dy gwrs
- Gall Adran Grantiau Myfyrwyr dy AALl ddweud pa gefnogaeth ariannol y maen’ nhw’n ei chynnig ar gyfer
cyrsiau rhan-amser a chyrsiau dysgu o bell.
- Os wyt ti’n gweithio ac am gymryd cwrs a fyddai’n help yn y swydd rwyt ti ynddi ar hyn o bryd, efallai
y byddai dy gyflogwr yn barod i helpu.
- Mae Benthyciadau Datblygu Gyrfa yn ffordd o fenthyca arian er mwyn talu am ddysgu.
- Os wyt ti’n 16 neu 17 oed efallai fod gen ti hawl i amser i astudio.
- Mae rhaglenni hyfforddi sy’n cael eu cynnal gan y llywodraeth, fel Prentisiaethau Modern a Rhaglenni
Hyfforddi Cenedlaethol yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc i ennill cymwysterau tra’u bod nhw hefyd yn ennill
cyflog neu’n cael lwfans hyfforddi. Hola yn y Ganolfan Gyrfaoedd leol.
|
|
|
|