Pam cael Ysgol Werdd? Disgyblion Ysgol Y Graig yn holi.
Hon fydd yr ysgol gyntaf yn Sir Fôn i gynhrychu trydan ei hun. Os bydd peth yn weddill y bwriad yw ei werthu i'r grid cenedlaethol!
Bydd nodweddion unigryw eraill i'r ysgol gan gynnwys teils to solar, tyrbin gwynt a 'tho gwyrdd' - un wedi ei wneud allan o laswellt - a fydd yn darparu cynefin naturiol i blanhigion a phryfed.
Gwrandewch ar y disgyblion yn holi Maer Llangefni, Meurig Bowen Hughes BSc, pam bod cael ysgol werdd yn beth da.
Pensaer yr ysgol werdd yn sôn am rai o'i nodweddion
Mwy o luniau o'r ysgol newydd ar wefan Ysgol Y Graig (Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol)
 |