|
Mae pentref ac ardal Llanfair Pwllgwyngyll yn ddiamau yn drysorfa o hanes a harddwch naturiol.
Oddi yma gallwch grwydro llwybrau'r fro, ymweld â safleoedd hanesyddol a gweld y golygfeydd mwyaf godidog o'r Fenai a mynyddoedd Eryri.
Yn ogystal, gallwch wylio adar a manteisio ar y cyfle i bysgota môr ar lannau'r afon.
Yn y pentref mae tafarndai clyd, llefydd bwyta, siopau'n gwerthu nwyddau ac anrhegion a dewis o lefydd i aros.
Gallwch deithio mewn car i Lanfairpwllgwyngyll drwy ymuno â'r A55 neu ddod yma ar un o'r trenau sy'n dod i mewn i'r orsaf enwog â'r enw hir.
Un o nodweddion enwocaf pentref Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn
ddiamau yw'r enw - yr hiraf yn Ewrop os nad y byd.
Ond mae mwy i'r pentref a'r ardal na'r enw yn unig, wedi'r cwbl mae tystiolaeth fod pobl wedi bod yn byw yma ers rhwng 4,000 a 2,000 Cyn Crist.
Cynlluniwyd y daith hon i roi blas ar hanes a thirlun pentref Llanfairpwll. Ystyrir y daith yn un weddol hawdd ond awgrymir gwisgo esgidiau priodol gan fod rhan o'r daith yn croesi tir amaethyddol a thir a all fod yn wlyb wrth lan y Fenai. Man Cychwyn: Maes parcio'r Gors
Amser: 2 awr (hamddenol)
Gwasanaethau: Parcio am ddim a thoiledau.
Dechrau'r daith Oriel luniau'r daith gerdded
 |