 |
Y Stiniogwyr: Ardal glos yn lapio ei hun amdanoch.
Harddwch yr ardal y llynnoedd, yr afonydd a'r mynyddoedd. Digonedd o wahanol lefydd I fynd am dro.
Prysurdeb y gymuned mwy na digon o wahanol gymdeithasau i ymaelodi hefo nhw. Gwasanaeth trên a bysiau peth prin y dyddiau hyn.
Mae yma ddwy archfarchnad ac mae'r siopau bach eraill yn rhyfeddol yn eu cynnwys. Dowch o hyd i bopeth yma rhywsut.
Prif swyddfa bost.
Llyfrgell.
Canolfan dysgu gydol oes.
Canolfan gymdeithasol.
Canolfan chwaraeon a gym.
Pwll nofio.
Cwrs golff.
Cae a chlwb rygbi.
Cae pêl-droed.
Siop lyfrau newydd ac ail law.
Siop ddodrefn.
Banciau.
Corau ymrysonau barddol dawnsio llinell.
Ardal dda i bysgota eog a brithyll.
Tre ganolog o ran teithio pwysig iawn. Awr a hanner i faes awyr Manceinion.
Awr a thri chwarter i Aberystwyth. Awr a hanner i Gaer. Dwy awr i Lerpwl. Awr i Fangor (ymweld yn yr ysbyty).
Llai na hanner awr i lan môr Morfa Bychan a Chricieth. Tair awr a hanner i Gaerdydd.
Yn ôl y mewnfudwyr Cymreig rhyw le nad ydach chi eisiau dod iddo ac nad ydach chi byth eisiau mynd oddi yma. Wn i ddim am y lleill!
 |
 |