 |

 |
Poster arddangosfa Llyfr Mawr y Plant, yn Neuadd Ogwen, Bethesda tan Hydref 22.
|
|
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
|
 |
|
 |
 |
Sylwadau Dr John LLywelyn Williams, mab J.O. Williams, un o awduron Llyfr Mawr y Plant, ar yr arddangosfa
Hyfrydwch o'r mwyaf yw cael croesawu Arddangosfa Llyfr Mawr y Plant i Ddyffryn Ogwen sef cartref ysbrydol Siôn Blewyn Coch a Wil Cwac Cwac, megis.
Er bod saithdeg pum mlynedd bellach wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r gyfrol gyntaf mae campwaith J.O. Williams a Jennie Thomas yn dal ei dir fel un o'r llyfrau mwyaf difyr ac atyniadol a gyhoeddwyd ym myd llenyddiaeth plant yn y Gymraeg.
Does ryfedd felly fod y gyfrol eiconig hon wedi ei dewis yn ddiweddar fel y llyfr mwyaf dylanwadol a gyhoeddwyd yn ystod degawd y tri degau yng Nghymru.
Ar achlysur pen-blwydd y gyfrol gyntaf yn saith deg pump oed fe drefnodd y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa i ddathlu'r achlysur. Rhan o'r arddangosfa hon sydd i'w gweld ym Methesda, ac er mai cipdrem yn unig a geir ar gefndir cyhoeddi'r llyfr, fe welir ynddi sut y llwyddodd yr awduron i asio ffrwyth eu dychymyg gyda dull o gyflwyno a oedd yn gwbl newydd, yn fywiog ac yn lliwgar, ac a oedd yn deilwng o sylw plant Cymru.
Nid yw'n syndod felly i gymeriadau'r Llyfr oroesi'r blynyddoedd a'u bod yr un mor fyw i ddarllenwyr heddiw ag yr oeddynt i ddarllenwyr dri chwarter canrif yn ôl.
Diolch felly i awdurdodau'r Llyfrgell Genedlaethol am ganiatáu'r arddangosfa i ddod i Fethesda, i'r cynghorau plwy sydd wedi cyfrannu at ariannu'r arddangosfa ac i bawb yn y gymdogaeth sydd wedi croesawu'r Llyfr Mawr yn ôl i'r aelwyd a'i hysbrydolodd.
 |
 |
 |
 |
|
|