Y 'moonwalk' Mehefin 2010 Bu Annwen Francis a Chis Timewell o Stad Ty'n Coed, Llangefni ynghyd â'i ffrindiau Shirley, Frances a Mila yn cymryd rhan mewn taith oddedig 'Playtex Moonwalk' yn Llundain ar Fai 15.
Taith 26.2 milltir i godi arian tuag at Ymchwil Cancr y Fron yw'r Moonwalk sy'n cychwyn am hanner nos (fel mae'r enw'n awgrymu) drwy strydoedd Llundain mewn 'bras wedi eu harddurno ar y them 'Showtime'.
Roeddyn yn falch o weld y llinell orffen yn Hyde Park ar ôl wyth awr o hanner o gerdded caled.
Codwyd dros £1,000 tuag at yr achos. Da iawn genod! Y Glorian