Penwythnos mawr Mehefin 2010 Awyr las, haul tanbaid, cerddoriaeth wych gan rai o grwpiau ac artisitiad roc a phob enwocaf y byd a'r cwbl yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y radio.
Do, but Big Weekend, gŵyl fawr Radio 1 y BBC, a gynhaliwyd ar gaeau'r Faenol ar 22-23 Mai, yn llwyddiant mawr yn ôl y rhai a fu'n digon lwcus i gael tocynnau.
Heidiodd 40,000 o bobl yno dros y ddau ddiwrnod o bell ac agos, ac yn eu plith y ffotographydd Gaynor Thomas o Fangor gyda'i chamera.