BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Tryweryn: Diwrnod ola'r ysgol (parhad)

Rhodri Jones ydy'r trydydd o'r chwith yn y rhes flaen. (Llun: Gwyn Evans, y Bala)

"Daeth y plant i gyd yn ôl wedyn i weld beth oedd yn mynd ymlaen. A dyma ni'n eistedd uwch ben y cob yn gweld y dynion efo bwldosers yn dod a chwalu'r ysgol, a liwtio beth bynnag oedd yna a'i gario o 'no fel morgrug.

"Roeddwn i, a phawb arall, yn gwybod wedyn mai dyna oedd diwedd Celyn, pan ddaru nhw chwalu'r ysgol, gan mai'r ysgol oedd gem y cwm, ac mi chwalwyd hwnna.

"Dyma ni'n cerdded adref gan wybod yn iawn mewn ryw fis neu ddau y byse'r lle'n llawn o ddŵr.

"Dwi'n cofio'r diwrnod ddaru ni fynd i'r ysgol newydd yn Nghwmtirmynach. Doedd ganddyn nhw ddim clem, yr athrawon na'r plant, beth roedden ni wedi mynd drwyddo yng Nghelyn. Ddaru nhw ddim dangos llawer o gydymdeimlad aton ni wedi i ni golli ein cartrefi a'n cymdeithas.

"Mi ddaru nhw agor yr argae am tua pump o'r gloch, ac mi gafodd pawb o'r cwm ei wa'dd yno. Roedd o fel diwrnod allan. Gan fod 'na ddiod am ddim, aeth lawer o bobl yr ardal yno a meddwi yn ofnadwy.

"Dwi'n cofio dreifio trwy'r dyrfa efo dad yn y fan, a phobl yn protestio ac yn amgylchynu'r fan. Roedden nhw'n meddwl ein bod ni'n ryw bwysigion o Lerpwl, felly ddaru dad agor y ffenest a gweiddi:
"Dwi'n Gymro'r diawliaid, dwi'n dod o Creignant, ewch o 'ma, dwi efo chi," a dyma nhw'n stopio, a'n gadael ni drwodd.

"Y peth gwaetha efo Celyn oedd y ffaith bod y Llywodraeth wedi ei wneud o mor ddirgel, er fod 'na bobl yng Nghymru yn gwybod beth oedd yn digwydd dwi'n siŵr.

"Er nad ydw i yn berson gwleidyddol, dwi'n gwybod fod estron wedi dwad i Gymru, wedi chwalu cymdeithas, gwneud argae a gollwng dŵr i'w lenwi o - a wedyn mynd, diflannu, a gadael dim ar eu hôl.

"Roedd yna lot o hanes yng Nghelyn, yn enwedig y Crynwyr ddaru ddiodde' dros eu crefydd. Mi fyswn i'n hoffi gweld ryw fath o amgueddfa wedi ei hadeiladu ar ochr y ffordd i gofnodi eu hanes nhw, a hanes Celyn, yn lle bod yna jest capel coffa gwag, oer.

"Yr unig beth ddaru nhw ei adael oedd un bocs ffôn, a garantî o fws bob dydd Iau i'r Bala - dyna'r cwbl gafon ni gan Lerpwl.

"Yr effaith mwyaf arna i ydy'r teimlad 'mod i ddim yn dod o nunlle. 'Sgen i ddim cynefin ... Dwi ddim yn gwybod be ydi plwyfoldeb. Dwi'n dweud fy mod i'n dod o Gelyn, ond dwi ddim yn gwybod be ydi hi i fod yn un efo grŵp o bobl fel yr Urdd, neu dîm pêl-droed neu gapel.

"Mi gaethon ni - y fferm - ein gadael ar ochr y llyn, a ddaru pawb anghofio amdanon ni. Mi roddodd lot o straen ar fy mam a 'nhad am nad oedd 'na ddim llafur ar ôl yn Celyn - neb i helpu efo hel y gwair na'r defaid. Doedd yna ddim cymdogion i edrych ar ôl yr anifeiliaid os oedden nhw am fynd i ffwrdd i'r sioe, felly doedden nhw ddim yn gallu gadael y ffarm.

"Roedd yn rhaid iddyn nhw weithio'n galetach i wneud i fyny am golli'r cymuned, a felly roedd rhaid i ni blant helpu lot mwy yn lle mynd allan i chwarae.

"Roedd yn anodd iawn gwneud bywoliaeth ar y fferm yn y mynyddoedd uwch ben y llyn."

Rhodri Jones, Craignant.

Nôl i'r dudalen gyntaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy