Yng Nghymru mae hyn yn fwy na gosodiad daearegol syml, oherwydd dyma wlad lle mae daeareg yn fater cymdeithasol; gwlad sydd â'i hanes ynghlwm â siâp a gwneuthuriad y creigiau y ffurfiwyd hi ohonyn nhw.
Yn rhannol, y tirwedd sy'n gyfrifol am hyn. Profodd tirwedd fynyddig Cymru i fod yn rhwystr i oresgynwyr Sacsonaidd, yna i'r Normaniaid, ac fe fu'n rhagfur a amddiffynnodd gymdeithas Geltaidd a'i galluogi i ddatblygu ar gyrion y genedl-wladwriaeth gryfaf yn y byd.
Hefyd mae cynnwys y tir yn gyfrifol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, darparodd y mynyddoedd hyn y cyfoeth mwynol a adeiladodd genedl fodern Cymru ac a ddylanwadodd yn fawr ar y strwythur cymdeithasol, ar ddosbarthiad y boblogaeth ac ar y siâp corfforol mae'r wlad wedi ei etifeddu heddiw.
Cymoedd de Cymru yw'r esiampl berffaith o hyn, ond mae hefyd yn wir am rannau o orllewin Cymru, o ogledd-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig o ardaloedd chwarelyddol gogledd-orllewin Cymru, lle mae gweithfeydd cenedlaethau o chwarelwyr wedi trawsffurfio'r mynyddoedd yn byramidiau terasog.
'Klondike' Celtaidd
Yn ei ddydd roedd diwydiant llechi Cymru yn cyflogi miloedd o bobl ac yn anfon ei gynnyrch o gwmpas y byd ar y rheilffyrdd ac ar y môr. Fe wnaeth rai buddsoddwyr yn gyfoethog iawn, a gwnaeth eraill yn fethdalwyr. Yn anterth y diwydiant, yn rhan olaf y 19eg Ganrif, pan oedd elw anferthol i'w wneud o'r diwydiant llechi, fe drowyd ardaloedd anferth o Ogledd Cymru yn rhyw fath o Klondike Celtaidd, gyda hapfuddianwyr, cwmnïau a grwpiau bychain o weithwyr mentrus yn agor degau o gloddfeydd newydd yn y gobaith o wneud ei ffortiwn allan o aur llwyd Gwynedd.
O gwmpas y gweithiau hyn y tyfodd cymunedau a gyflenwodd y gweithlu - llefydd tebyg i Blaenau Ffestiniog, Talysarn, a Bethesda.
Yn wahanol i ardaloedd glofaol de Cymru a oedd yn ymledu yn ystod yr un cyfnod, doedd yr ardaloedd chwarelyddol ddim ar y cyfan yn denu gweithlu o'r tu allan i Gymru, ond yn hytrach o ardaloedd gwledig gogledd-orllewin Cymru.
Y canlyniad oedd rhwydwaith o gymunedau a oedd i raddau helaeth yn Gymraeg eu hiaith, ac mae hynny'n dal yn wir heddiw. Roedden nhw hefyd yn anghydffurfiol eu crefydd ac yn radical eu gwleidyddiaeth. Yn y cymunedau hynny roedd arian sbâr prin y bobl - a gâi ei gyfri mewn ceiniogau - yn mynd i adeiladu capeli ac i ariannu addysg gymunedol, yn fwyaf nodedig drwy helpu i sefydlu Prifysgol Cymru.
Roedd y gwerthoedd hynny dipyn yn wahanol i eiddo perchnogion y chwareli, a oedd, i raddau helaeth, yn geidwadol, yn Saesneg eu hiaith ac yn Anglicanaidd. Roedd eu harian sbâr helaeth hwy - a gyfrwyd mewn miloedd - yn mynd ar fuddsoddiadau tramor neu ar brosiectau personol fel castell Penrhyn, ffantasi o adeilad ar gyrion Bangor, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gwrthdaro rhwng meistri a gweithwyr
Roedd Arglwydd Penrhyn wedi gwneud buddsoddiadau llewyrchus mewn llechi Cymru ac mewn siwgr o'r Caribî - llwyddiant dwbl a'i arweiniodd i roi'r llysenwau "Sugar" a "Slate" i'w ferched Emma a Juliana.
Roedd yna eithriadau i'r rheol wrth gwrs. Roedd yn well gan nifer o chwarelwyr wario'u harian yn y dafarn yn hytrach nag ar gapeli, a doedd pob perchennog chwarel ddim yn amddifad o gymhellion dyngarol.
Ond roedd yr hollt rhwng y ddwy ochr mor ddwfn ac unrhyw agen mewn strata daearegol, a dim ond cynhyrfiad bychan oedd ei angen i'w chwalu ar agor.
Dyna a ddigwyddodd ym Mis Ebrill 1900, pan wrthododd rheolwr chwarel y Penrhyn adael i'r gweithwyr gasglu taliadau undeb ar dir y chwarel. Ymgais i roi terfyn ar weithgaredd undebol oedd hyn. Dyna gychwyn ar un o'r anghydfodau diwydiannol hiraf a chwerwaf yn hanes Prydain, - anghydfod y mae ei oblygiadau yn dal i atseinio hyd heddiw.
Gwrthwynebodd rhai dynion weithred y rheolwr, ac fe gawson nhw'u diarddel yn syth; cerddodd y gweddill o'r gweithwyr - bron 3,000 ohonyn nhw - allan ar streic.
Cafodd tua 400 ohonyn nhw eu denu yn ôl i'r gwaith ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, gan dderbyn anrheg o sofren ac addewid o godiad cyflog. Dyma'r ddynion a gafodd eu galw'n "Fradwyr" gan y streicwyr. Byddai teuluoedd a oedd yn deyrngar i'r streic yn rhoi arwyddion yn eu ffenestri yn dweud: "Nid oes bradwr yn y tŷ hwn".
Chwalfa a chwerwedd
Llusgodd y misoedd heibio. Bu rhai helyntion, a chafodd y Ddeddf Derfysg ei darllen ar un achlysur - doedd oedd yn caniatáu i'r awdurdodau defnyddio grym militaraidd os oedd angen. Ar yr un pryd bu'r undeb a'r Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel, yn cystadlu am gydymdeimlad y cyhoedd ar lefel fyd-eang drwy hyrwyddo eu hachosion gwahanol drwy golofnau'r papurau newydd, a fu'n dilyn yr anghydfod â chryn ddiddordeb.
Ond yn y diwedd, nid cydymdeimlad y cyhoedd a benderfynodd y mater, ond yn hytrach stumogau gweigion teuluoedd y streicwyr. Aeth y dynion yn ôl i'r gwaith ym Mis Tachwedd 1903, gyda'u hundeb yn dal heb ei gydnabod. Roedden nhw wedi dal allan am dair blynedd a saith mis.
Bethesda - 'Tŷ Heddwch'
Enw yn deillio o'r Hebraeg yw 'Bethesda' - un o nifer o enwau Beiblaidd tebyg a fabwysiadwyd gan bentrefi Cymraeg yn ystod teyrnasiad anghydffurfiaeth.
Ystyr 'Bethesda' yw 'Tŷ Heddwch', ond 'doedd y gymuned a arddelai'r enw tangnefeddus hwn ddim wedi llwyddo i fyw mewn tangnefedd yn ystod tair blynedd chwerw'r streic - o bell ffordd. Ganrif gyfan yn ddiweddarach, mae pobl y pentref yn dal i gofio pa deuluoedd oedd yn streicwyr a pha rai oedd yn 'Fradwyr'.
Er bod y diwydiant llechi yng Nghymru bellach yn ddim ond yn gysgod o'r hyn a fu, mae atgofion a gwerthoedd y diwydiant, a'r cymunedau a ffurfiwyd i'w wasanaethu, yn dal yn fyw.
Ceir corff o lenyddiaeth yn cofnodi'r angerdd a'r gwrthdaro a achoswyd gan y streic. Ym mis Rhagfyr 2003 cyhoeddwyd dau lyfr newydd am y streic yn ystod ei chanmlwyddiant. Mae nofel Gymraeg Eigra Lewis Roberts, Rhannu'r Tŷ, yn adrodd hanes y rhaniadau a achoswyd gan yr anghydfod.
Hefyd mae Gwasg Gomer wedi ailargraffu cyfrol glasurol John Sheridan Jones (newyddiadurwr ar y Daily News ) o 1903, What I Saw in Bethesda, sy'n rhoi hanes y streic Mae'r llyfrau hyn, ac eraill tebyg iddyn nhw, yn dangos fel y mae'r streic yn dal i hawlio sylw.
Yn gynharach y flwyddyn honno, cynhaliodd grwpiau lleol gyfres o ddigwyddiadau i goffau'r streic ym Methesda. Mae'r pentref bellach yn gyrchfan pererindod i undebwyr llafur, ac yn ddelwedd eiconig o hanes diwydiannol a chymdeithasol Cymru.
Bu gyngherddau corau meibion, perfformiadau ysgolion, darlleniadau a darlithoedd hanesyddol. Pwysleisiwyd yr angen i gofio ond hefyd yr angen i faddau. Dyfynnwyd geiriau'r awdur Ernest Roberts, hanesydd y streic, "Yr unig beth y gallwn ei wneud heddiw yw edmygu'r rhai a lwyddodd i ddal tan y diwedd, ond rhaid i ni beidio â chondemnio'r rhai a fethodd wneud hynny."
Roedd yna symbolaeth gref o'r awydd i iachau clwyfau hanes wrth i berchnogion presennol chwarel y Penrhyn, cwmni adeiladu McAlpine, dalu am goflech i goffau'r streic. Cafodd hon ei dadorchuddio fel rhan o'r dathliadau. Fe dalodd y cwmni hefyd am yr arysgrif ar y llechen gab y Prifardd Ieuan Wyn:
"Yn dlawd ac mewn dyledion - aeth ystyr
I Fethesda'r galon,
A byw yw co'r henfro hon
O'r helynt a'r treialon".