|
"Mae pedwar cenhedlaeth o'r un teulu wedi cadw'r swyddfa bost yn Llanwnda.
Yn anffodus, mae'r swyddfa bost yma newydd orfod cau yn 2008. Felly roedd yn amser da, ond hefyd trist, i gyhoeddi llyfr am y lle.
Yn 1906, prynwyd y siop a'r swyddfa bost gan John Evans a'i wraig, Mary, o Fethesda. Roedd ganddynt fusnes glo a blawd hefyd; yn gwerthu i Dafarn y Goat dros y ffordd.
Ond bu farw John yn eithaf ifanc ac felly roedd yn rhaid i'w wraig weddw ddal ati i redeg y busnesau ar ei phen ei hun. Roedd Mary wedi bod yn bennaeth cadw tŷ ym mhlas Penrhyn ac roedd ganddi ben da am fusnes. Mae'n rhaid ei bod yn ddynes alluog wrth iddi redeg y busnesau, magu tri o blant a chadw tŷ. Yna, daeth gwersyll y llu awyr i Landwrog yn ystod yr Ail Rhyfel Byd. Byddai unrhyw alwadau ffôn yn cael eu trosglwyddo drwy'r swyddfa bost, ac felly symudodd Mary ei gwely i lawr grisiau er mwyn iddi beidio â cholli galwad bwysig i'r awyrlu.
Yna, aeth ei merch hi, Daisy Owen, a'i gŵr draw o Bwllheli i'w helpu hi, a hefyd i redeg cwmni tacsi.
Yn drist eto, bu farw gŵr Daisy yn ifanc hefyd, ond eto, ddaru hi aros ymlaen am flynyddoedd; tan 1978.
Yn 1971, cafodd Daisy ei henwebu am wobr ar ôl iddi ddal dynion oedd wedi bod yn codi arian o lyfrau cynilo hen bobl mewn swyddfeydd bost ledled y wlad. Ddaru hi sylwi ar lond car o hogiau yn edrych yn amheus, a rhybuddio'r brif swyddfa bost ym Mangor.
Gafodd Daisy crug y 'mhalau ac felly daeth ei merch hi, Dilys, ati i redeg y siop hyd at 1990. Fel merched eraill y teulu, daeth Enid, merch Dilys, a'i gŵr i redeg y swyddfa bost nes iddo orfod cau yn 2008."
Mae copïau o lyfr Aelwen ar gael yng Nghanolfan Hanes Uwchgywrfai, Clynnog Fawr.
 |