|
Mae Dolbadarn yn orthwr crwn, wedi ei adeiladu yn y 1240au ar dop bryn uwchben llynnoedd Peris a Phadarn. Mae rhai cron yn haws i'w amddiffyn na gorthwr sgwâr gan nad oes yna gorneli lle gall y gelyn guddio.
Mae'r tŵr yma yn un eithaf soffistigedig. Mae yna dri llawr, ac olion siambr eithaf moethus ar y trydydd llawr. Cafodd Owain Llawgoch, brawd Llywelyn ap Gruffydd ei garcharu yn yr ystafell yma.
Byddai'r fynedfa wedi cael ei amddiffyn gan bont godi a phorthcwlis, oedd yn anarferol i'r cestyll Cymreig.
Gan fod y castell yma mewn lleoliad mor ysblennydd, roedd eto yn boblogaidd ym mhlith artistiaid yr oes Fictoraidd. Paentiodd Turner lun ohono - er mae o wedi gorliwio'r mynyddoedd yn y cefndir; mae'n nhw sicr yn edrych yn llawer mwy na mynyddoedd Eryri! Peter Humphries
Cestyll Llywelyn
 |