
Mae'r stori yn dyddio yn ôl i 1188. Wrth iddo deithio drwy Gymru, nododd Gerallt Gymro gastell yn yr ardal yma, sef Castell Deudraeth. Caiff hefyd ei hadnabod fel Castell Aber Ia.
Mae'r enw Deudraeth yn gwneud synnwyr topograffaidd gyda Phortmeirion heddiw, gan fod yna Westy Deudraeth hefyd. Ond am flynyddoedd, nid oedd neb yn siŵr o gwbwl ym mhle ar dir Portmeirion oedd Castell Deudraeth gan fod y tir wedi newid cymaint dros y blynyddoedd. Byddai rhan fwyaf o olion y castell wedi eu colli o fewn y goedwig.
Felly, roedd yn rhaid i mi gychwyn wrth edrych drwy ddogfennau ar y pwnc, ac mi wnes i ddod ar draws nodyn am un lleoliad yn arbennig. Ac mae'r lleoliad yma yn un gwych ar gyfer castell; ar ben craig, uwchben y foryd.
Mae yna ffôs wedi ei thorri i fewn i graig y tu ôl i leoliad y castell, er mwyn ei amddiffyn. Mae yna hefyd olion waliau cerrig wedi eu hadeiladu ar draws y llethrau.
Byddai'r castell wedi sefyll mewn cyfnod diddorol iawn yn hanes Gwynedd, ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170. Roedd yna lot o ymladd rhwng ei feibion. Ddaru nhw fynd ati i wahanu'r ardal ym mhlith eu gilydd, gan fynd ati i adeiladu cestyll cerrig fel symbol o'u pŵer ac i'w gwarchod rhag ymosodiadau. Er nid oes llawer ar ôl o'r cestyll cynnar yma, ddaru nhw arwain y ffordd ar gyfer cestyll eraill Cymreig, fel Dolwyddelan a Chastell y Bere.
Mae yna sôn go bendant am ddŵr ar y safle yma; mae'n bosib fod yna lun ohono, ond cafodd ei ddinistrio mewn tân ym Mhortmeirion. Cafodd y tŵr ei ddymchwel yn y bedwaredd ganrif ar bumtheg gan denant o'r stâd, ond caiff y graig lle safodd y tŵr ei hadnabod fel Craig y Castell.
Mae yna dal drafodaeth os mai hwn oedd wir leoliad hen Gastell Deudraeth, ond dwi'n sicr fod rhyw fath o amddiffynfa wedi bod yma a dwi'n siŵr am hwn yr oedd Gerallt Gymru yn sôn.
Efallai nad oes llawer i chi weld wrth fynd i'r lleoliad yma, ond mae'n hawdd dychmygu sut y byddai castell wedi edrych, ar ben y graig ger y môr. Mae Portmeirion yn lle poblogaidd iawn, er nid yw llawer yn meddwl am yr hanes yn yr ardal fach yma cyn adeiladu'r pentref.
Louise Barker o'r Comisiwn Frenhinol Henebion Cymru.
 |