 |
 |

Y bont yn Aberdaron. Dyma lle treuliai'r Saint eu noson olaf ar y tir mawr cyn croesi'r swnt i Enlli. |
 |

Goleudy Ynys Enlli a'r mynydd yn y cefndir. Prynwyd yr Ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn 1979.
|
 |
 |
 |

Harbwr Pwllheli a adeiladwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif. Mae pysgota wedi bod yn ddiwydiant dylanwadol yn y dref. |
 |

Stryd Fawr Pwllheli
|
 |
 |
 |

Bu porthladd Porthdinllaen, ger traeth Nefyn, o fewn dim i gael ei ddatblygu fel y prif borthladd i Iwerddon yn lle Caergybi. |
 |

Ers 1978, Canolfan Iaith a Diwylliant sydd yn hen bentref chwarel y Nant.
|
 |
 |
 |

Neuadd bentref Mynytho a wnaed yn enwog gan englyn R Williams Parry. Yma y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y mudiad Cymuned yn 2001. |
 |

Y plac a'r englyn ar wal Neuadd Bentref Mynytho
|
 |
 |
 |