Eluned Glyn o Fachynlleth
Roeddwn i'n disgwyl i Bryn Fon fod yn rhif un. Mae o'n amazing!!!
Erica Jones o Gaernarfon
Noson wych! Roedd y bandiau i gyd yn dda, yn ENWEDIG Bryn Fon a'r Band. Lleoliad cyfleus iawn, a phawb yno yn Gymry yn mwynhau eu hunain a bonws fod y ticedi i fynd yno ar y noson yn rhad ac am ddim.
Prysor o JMJ a Pandy Tudur
Cracar o noson, eto 'leni. Diolch yn fawr Radio Cymru
Sam o Ysbyty Ifan
Noson Byth gofiadwy!! Cerddoriaeth gwych, cwrw bendigedig, awyrgylch ffantastig - a fi yn cael bod ar 'Bandit' yn gwneud total ffwl o fy hyn! O wel! Noson da iawn - rol on blwyddyn nesa!
Carwyn Rhys o Bontnewydd
Be di pwynt y noson yma? Er mwyn clodfori ma mor wan ydi cerddoriaeth "poblogaidd" Cymraeg, gan fod Hen Ganeuon ar y brig pob blwyddyn. Pa obaith sydd gan y swm bychain o fands talentog Cymru i lwyddo, gan fod y cyfryngau yn benderfynol o dynnu pob gronyn allan o yrfaoedd pobol fel Bryn Fon a Dafydd Iwan. Adlewyrchiad gwael ar ddyfodol cerddoriaeth o'r math.
John Elfed Hughes o Maenan
Cefais i noson arbennig o dda. Diolch i Radio Cymru am y noson wych. Roedd y lle efo tua 800 o bobl a roedd o'n arbennig o dda i weld gymaint mewn un lle yn siarad yr iaith Gymreag. Arbennig o dda!