i eiriau John Lewis Jones
Cenir yr emyn ar y dôn fuddugol yng Nghymanfa Ganu'r Eisteddfod.
Am dy roddion ddaw oÂ’r newydd,
a chysondeb llanw’r môr,
boed ein cân o fawl yn deilwng
o’th haelioni, Arglwydd Iôr.
Gwared ni rhag camddefnyddio
a gwastraffu pan fo cri
y newynog oll yn edliw
ddysglau llawn ein byrddau ni.
Ym moethusrwydd ein cartrefi,
na foed inni, nefol Dad
droiÂ’n glustfyddar iÂ’r trueni
sydd ar gerdded trwy bob gwlad.
Bydd o blaid y rhai syÂ’n gweithio
i ddiddymuÂ’r gwn aÂ’r cledd;
Ti yn unig, dirion Arglwydd
ddaw â’r byd i lwybrau hedd.
Pan foÂ’n hirlwm ar dy eglwys
aÂ’r gwrthgilio yn dwysau,
rho iÂ’r dau neu dri syÂ’n ffyddlon
nerth i gadwÂ’r drws heb gau.
Boed i neges dy efengyl
dreiddio i bellafoedd byd
fel y deloÂ’r holl genhedloedd
dan dy faner di o hyd.
Gall fod peth oedi cyn i'r fideo ymddangos ar adegau.