Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth hon i hyfforddi llenor neu fardd na chyhoeddwyd cyfrol o'i (g)waith eisoes. Dyfernir yr ysgoloriaeth yn flynyddol i'r cystadleuydd mwyaf addawol. Ar gyfer Eisteddfod 2003 fe'i cynigir i lenor. Gofynnir i'r cystadleuwyr anfon darn neu ddarnau rhyddiaith o gwmpas 3,000 o eiriau ar un o'r ffurfiau canlynol: braslun nofel, pennod agoriadol nofel, tair stori fer neu dair ysgrif. Rhaid i'r darnau fod yn waith gwreiddiol a newydd yr awdur.
Dyddiad cau: 1 Ebrill 2007
Gwobr: Ysgoloriaeth Emyr Feddyg, yn werth hyd at £1,000, yn cynnwys £100 i'r enillydd ar gyfer meddalwedd neu lyfrau. Yna trefnir ar gost yr ysgoloriaeth i'r enillydd gael prentisiaeth wyneb yn wyneb gyda llenor profiadol a benodir gan y Panel Llenyddiaeth. Bydd yr hyfforddiant yn parhau am tua chwe mis, ac yn cynnwys pedair o sesiynau dwy awr, yn ogystal â derbyn sylwadau manwl ar bedair o dasgau a anfonir drwy'r post neu e-bost. Telir yn ogystal gostau teithio'r enillydd i'r sesiynau.heb fod dros 200 llinell: Gorwelion
Gall fod peth oedi cyn i'r fideo ymddangos ar adegau.