[an error occurred while processing this directive]

BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


BBC Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Canlyniadau

Dysgwyr

135Tlws Dysgwr y Flwyddyn

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn bellach wedi ennill ei lle fel un o brif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Y nod yw tynnu sylw at y ffaith fod pobl yn llwyddo i ddysgu Cymraeg, ac nid yn unig hynny, ond bod llawer o’r bobl sydd yn llwyddo hefyd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn at fywyd ein cymunedau Cymraeg. Pwy sy’n cael cystadlu? Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ddysgwr dros ddeunaw oed sydd erbyn hyn yn siarad yn eithaf rhugl. Sut i gystadlu? Gall cystadleuwyr ddod gerbron drwy ddwy ffordd - hunanwebiad neu drwy enwebiad gan diwtor neu unrhyw berson arall. Dylid anfon am ffurflen gais o Swyddfa’r Eisteddfod. Ar y ffurflen gais gofynnir am y canlynol: i. gwybodaeth am deulu a diddordebau ii. rhesymau dros ddysgu’r Gymraeg iii. sut y dysgodd y dysgwr Gymraeg iv. effaith dysgu’r Gymraeg ar fywyd y dysgwr a’r defnydd y mae’n ei wneud o’r Gymraeg: v. gobeithion ar gyfer y dyfodol Dylid anfon ffurflen gais erbyn 31 Mawrth 2007 at: Swyddog y Dysgwyr, Swyddfa’r Eisteddfod, Hen Swyddfa'r Hen Dy'r Ysgol, Ffordd Glanrafon, Yr Wyddgrug, Sir Fflint, CH7 1PA Cynhelir rowndiau cynderfynol yn ystod gwanwyn 2007 a bydd y cystadlu yno ar ffurf sgwrs/gweithgaredd gyda thîm o feirniaid. Penderfynir ar leoliad y rowndiau cynderfynol ar ôl derbyn yr enwebiadau i gyd. Dewisir cystadleuwyr o’r rowndiau cynderfynol i gystadlu yn y rownd derfynol a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn y rownd derfynol cyflwynir yr ymgeiswyr ym Mhabell y Dysgwyr ar ddiwrnod y gystadleuaeth ac hefyd bydd cyfweliad anffurfiol gyda 3 pherson cefnogol yn ystod y dydd a noson i’w chofio gyda phryd o fwyd a chyfle i bawb fwynhau ffrwyth llafur dysgu’r iaith. Cyflwynir yr enillydd mewn seremoni fer o lwyfan yr Eisteddfod y diwrnod ar ôl y gystadleuaeth ac os dymunir gall yr enillydd ddweud gair. Gwobrau: Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300 i’r enillydd, ynghyd â £100 yr un i bawb arall sy'n ymddangos yn y rownd derfynol (Er cof am Carys Lewis-Jones, Llanelwy, Athrawes Gymraeg Ysgol Uwchradd Treffynnon, gan ei phriod Dewi a'i phlant, Ian ac Elin) Tanysgrifiad blwyddyn yr un gan y cylchgrawn Golwg i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol a thlysau yn rhoddedig er cof am Carys Lewis-Jones, Llanelwy, Athrawes Gymraeg Ysgol Uwchradd Treffynnon, gan ei phriod Dewi a'i phlant, Ian ac Elin Beirniaid y rownd derfynol: J. Philip Davies, Glenys Leach, Rhiannon Lloyd

Gall fod peth oedi cyn i'r fideo ymddangos ar adegau.

Ffrwd RSS o'r canlyniadau diweddaraf
Beth yw hwn?



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy