| Môr a Mynydd
Rhaid cynnwys o leiaf dair elfen o blith y pump canlynol, sef alawon gwerin traddodiadol, cerdd dant, dawns, drama a llefaru i greu perfformiad dychmygus. Ni ddylai'r cyflwyniad fod yn hwy na 15 munud, yn cynnwys paratoi a chlirio'r llwyfan. Caniateir defnyddio symudiadau, gwisgoedd a mân offer llwyfan. Nid oes gyfyngiad ar y nifer sy'n perfformio. Dylid anfon braslun o'r script erbyn 1 Gorffennaf 2006 a chopi llawn erbyn yr Eisteddfod.
(Gweler hefyd y gystadleuaeth yn adrannau Cerdd Dant, Dawns, Drama a Llefaru) |