Cerddoriaeth: Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano
Cystadleuaeth Goffa Eleri Evans
(62)
11:00 Gwener, 11 Awst 2006
Stiwdio
Disgwylir i'r cystadleuwyr gyfeilio i ddarn ar gyfer offeryn cerddorfaol a bod yn barod i gyfeilio i ddarn arall a osodir ar y pryd. Bydd yr ail ddarn yn gân osodedig. Ni chynhelir y gystadleuaeth ar lwyfan y pafiliwn.
(a) Darn ar gyfer offeryn cerddorfaol
Ymholer â swyddfa'r Eisteddfod ar ôl 1 Mai 2006 am wybodaeth bellach.
(b) Cân osodedig
Rhoddir amser i'r cystadleuwyr ymgyfarwyddo â'r darnau ynghyd â'r ddau ddatgeinydd.
Gwobrwyon
£260 (£200 i ariannu astudiaeth bellach mewn cyfeilio o Gronfa Eleri, Llandyrnog, Dinbych; £60 Gwilym a Glenys Evans, Llandyrnog er cof am ei merch, Eleri)