
|
|
Cerddoriaeth: Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts
(36) |
| 20:50 Mercher, 9 Awst 2006 | Pafiliwn |
| Er cof am ei briod, Violet James, NantclwydSefydlwyd yr ysgoloriaeth hon i hyrwyddo cerddoriaeth leisiol i unawdwyr yng Nghymru.Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r cystadleuydd mwyaf addawol mewn cystadleuaeth arbennig er mwyn iddo/iddi ddilyn cwrs hyfforddi lleisiol mewn ysgol neu goleg cerdd cydnabyddedig.Bydd yr ysgoloriaeth yn agored i'r sawl a anwyd yng Nghymru neu sydd o dras Gymreig, neu i'r rhai a fu'n byw neu'n gweithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn dyddiad yr Eisteddfod, neu i'r sawl sy'n medru siarad neu ysgrifennu Cymraeg. Ysgoloriaeth i'w dal am flwyddyn yn unig yw hon ac ni bydd ei gwerth yn llai na £3,000. Cynigir £2,000 i'r ail, £1,000 i'r trydydd a £500 i'r pedwerydd.Bydd hawl gan y panel beirniaid i atal yr ysgoloriaeth neu i'w rhannu rhwng mwy nag un enillydd os bydd galw.Disgwylir i'r cystadleuwyr baratoi rhaglen heb fod yn hwy nag 20 munud. Rhaid i'r rhaglen gynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymreig o'r ugeinfed ganrif neu'r ganrif bresennol a chenir pob un o'r caneuon yn Gymraeg. Bydd swyddfa'r Eisteddfod yn darparu cyfieithiad Cymraeg o unrhyw gân (gweler ffurflen gais F). Rhaid gwneud cais am gyfieithiad Cymraeg gan anfon hefyd gopi o'r geiriau gwreiddiol a'r cerddoriaeth erbyn 1 Mai 2006. Ni chaniateir newid y dewis gwreiddiol o ganeuon ar ôl 1 Mai 2006. Bydd gan yr Eisteddfod gyfeilydd ar gyfer y gystadleuaeth hon ond bydd hawl gan y cystadleuydd, os myn, i gael ei g/chyfeilydd ei hun.Ystyrir cynnig perfformiad i enillydd yr ysgoloriaeth yn un o eisteddfodau'r dyfodol.THE W TOWYN ROBERTS SCHOLARSHIPIn memory of his wife, Violet Jones, NantclwydThis scholarship has been established to promote solo singing in Wales.It will be awarded to the most promising competitor in a special competition to enable him/her to follow a course of vocal instruction in a recognised school of music or college of music.The scholarship is open to those born in Wales or of Welsh parents, or any person who has resided or worked in Wales for the three years prior to the Eisteddfod, or any person able to speak or write the Welsh language. The scholarship is to be held for one year only and its value will not be less than £3,000. Prizes of £2,000 to the second, £1,000 to the third and £500 to the fourth.The adjudicating panel will have the right to withhold or divide the scholarship between more than one winner, if necessary.Competitors will be expected to prepare a programme not longer than 20 minutes. The programme must include one song by a twentieth century or the twenty first century Welsh composer and all songs will be sung in Welsh. The Eisteddfod office will provide a Welsh translation of any song (see entry form F). Such a request must be made by 1 May 2006, and must be accompanied by a copy of the music and original words. No change may be made in the programme of songs after 1 May 2006. An official Eisteddfod accompanist will be available but each competitor may bring his/her own accompanist. A performance at a future Eisteddfod may be offered to the winner of the scholarship. | Perfformiad |
| Gall fod peth oedi cyn i'r fideo ymddangos ar adegau. |
| Canlyniadau |
|---|
 |
Katherine Allen |
Caerdydd |
 |
Rhys Jenkins |
Glasgow |
 |
Catrin Aur |
Castell Newydd Emlyn |
 |
Alex Vearey-Roberts |
Bow Street, Aberystwyth |
|
Claire Watkins |
|
|
Angharad Lisabeth Rees |
|
|
Rhian Mair Lewis |
|
|
Huw Euron |
|
|
Elisabeth Toye |
|
| Gwobrwyon |
|---|
 | £3,000 (Cronfa W Towyn Roberts) |  | £2,000 (Rhodd Gwobr Roland Jones) |  | £1,000 |  | £500 |
|
|