| Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn bellach wedi ennill ei lle fel un o brif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Y nod yw tynnu sylw at y ffaith fod pobl yn llwyddo i ddysgu Cymraeg, ac nid yn unig hynny, ond bod llawer or bobl sydd yn llwyddo hefyd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn at fywyd ein cymunedau Cymraeg.
Pwy syn cael cystadlu?
Maer gystadleuaeth yn agored i unrhyw ddysgwr dros ddeunaw oed sydd erbyn hyn yn siarad yn eithaf rhugl.
Sut i gystadlu?
Gall cystadleuwyr ddod gerbron drwy ddwy ffordd - hunan-enwebiad neu drwy enwebiad gan diwtor neu unrhyw berson arall. Dylid anfon am ffurflen gais o swyddfar Eisteddfod.
Ar y ffurflen gais gofynnir am y canlynol:
i. gwybodaeth am deulu a diddordebau
ii. rhesymau dros ddysgur Gymraeg
iii. sut y dysgodd y dysgwr Gymraeg
iv. effaith dysgur Gymraeg ar fywyd y dysgwr ar defnydd y maen ei wneud or Gymraeg
v. gobeithion ar gyfer y dyfodol
Dylid anfon ffurflen gais erbyn 31 Mawrth 2006 at: Swyddog y Dysgwyr, Swyddfar Eisteddfod, 40 Parc Ty Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5WU.
Cynhelir rowndiau cynderfynol yn ystod gwanwyn 2006 a bydd y cystadlu yno ar ffurf sgwrs/gweithgaredd gyda thîm o feirniaid. Penderfynir ar leoliad y rowndiau cynderfynol ar ôl derbyn yr enwebiadau i gyd. Dewisir cystadleuwyr or rowndiau cynderfynol i gystadlu yn y rownd derfynol a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn y rownd derfynol cyflwynir yr ymgeiswyr ym Mhabell y Dysgwyr ar ddiwrnod y gystadleuaeth ac hefyd bydd cyfweliad anffurfiol gyda 3 pherson cefnogol yn ystod y dydd a noson iw chofio gyda phryd o fwyd a chyfle i bawb fwynhau ffrwyth llafur dysgur iaith. Cyflwynir yr enillydd mewn seremoni fer o lwyfan yr Eisteddfod y diwrnod ar ôl y gystadleuaeth ac os dymunir gall yr enillydd ddweud gair.
Gwobrau: Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300 (Merched y Wawr, rhanbarth Gorllewin Morgannwg) ir enillydd, ynghyd â £100 yr un i bawb arall sy'n ymddangos yn y rownd derfynol (XXX)
Beirniaid y rownd derfynol: Elwyn Hughes, Garry Owen, Helen Prosser |