BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cystadleuthau a Chanlyniadau

SADWRN SUL LLUN MAWRTH MERCHER IAU GWENER SADWRN
Drama: Ysgoloriaeth Geraint Morris mewn cydweithrediad â Cyfle Sgript drama deledu neu ffilm 10 munud o hyd (114)
Cystadleuaeth yn agored i unigolion dros 18 oed - nid yw'n agored i awduron sydd wedi ysgrifennu drama neu ffilm a gafodd ei chynhyrchu a'i darlledu. Rhaid i'r ddeialog fod yn wreiddiol i'r cystadleuydd ond caniateir i'r stori fod yn seiliedig ar ddigwyddiad neu waith arall ond rhaid nodi hyn gyda'r gwaith. Rhaid i'r sgript fod yn y Gymraeg. Y bwriad yw cynhyrchu'r ddrama neu ffilm fuddugol a'i dangos yn yr Eisteddfod. Bydd Cyfle yn defnyddio'r cynhyrchiad i roi hyfforddiant a bydd modd i'r buddugol fod yn rhan o'r gwaith cynhyrchu. Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth uchod er cof am Geraint Morris, cynhyrchydd teledu llwyddiannus ac uchel iawn ei barch yn y diwydiant yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Daeth ei enw i amlygrwydd fel cynhyrchydd cyfresi gyda'r BBC - cyfresi fel The Onedin Line, Softly, Softly, ac, yn arbennig felly, o bosib, Casualty, y gyfres hir, boblogaidd y bu Geraint yn gyfrifol am ei sefydlu. Ymhlith cynyrchiadau poblogaidd eraill o'i eiddo y mae The Bill, Juliet Bravo a Wycliffe, ac efe fu'n gyfrifol am y gyfres boblogaidd Pam fi Duw? Dylid cysylltu â swyddfa'r Eisteddfod er mwyn derbyn canllawiau. Dyddiad cau: 31 Ionawr 2006
Gwobrwyon
Gwobr GyntafYsgoloriaeth gwerth £500 o Gronfa Geraint Morris

Ffrwd RSS Ffrwd RSS o'r canlyniadau diweddaraf (Beth yw hwn?)

sunny Abertawe
isaf 10°C  uchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy