Dawns: Perfformiad dawns allan o sioe gerdd ar gyfer grwp rhwng 6 ac 20 mewn nifer
(105)
10:40 Iau, 10 Awst 2006
Pafiliwn
Dylai'r coreograffi fod yn wreiddiol. Dylai'r gerddoriaeth gefndir fod â geiriau Cymraeg neu yn offerynnol. Ni chaniateir canu byw. Ni ddylai'r cyflwyniad fod yn hwy nag 8 munud, gan gynnwys paratoi a chlirio'r llwyfan. Caniateir defnyddio gwisgoedd a mân offer llwyfan. Am fanylion pellach, cysyllter â swyddfa'r Eisteddfod.