Gwybodaeth i Rieni ac Athrawon

Mae'r Syrcas Gerdd yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2:

Dewch i ddysgu am gerddoriaeth a chyfansoddi gyda chymeriadau hynod y Syrcas Gerdd. Teithiwch drwy'r syrcas yng nghwmni'r syrcas feistr B Llonnod er mwyn dod o hyd i'r gemau a'r gweithgareddau yn y wagenni a'r pebyll.

Mae rhwydd hynt i chi chwilota yn y Syrcas Gerdd yn unrhyw drefn. Penderfynwch pa lwybr i'w ddilyn trwy glicio ar y saeth werdd.

Cliciwch ar y saethau 'I Mewn' i fynd i'r wagenni a'r pebyll i chwarae'r gweithgareddau.

Gweithgareddau

Jiwcbocs (Jukebox)
Gwarandewch ar bob math o gerddoriaeth, o roc i reggae, pop i hip hop, yn wagen foethus Madame Vaudeville. Dysgwch am ddeg math o gerddoriaeth gwahanol trwy ddarllen nodiadau syml wrth i chi wrando.

Cegin Gerdd (Music Kitchen)
Casgliad o weithgareddau yn ymwneud â synau a rhythmau. Rhowch help llaw i Mali Mwg roi trefn ar ei chegin a chadwch at y curiad gyda Wish-Wash y robot golchi llestri. Jamiwch gyda Gordon a gweddill y cogyddion ac ewch ati i greu eich rhythmau eich hun.

Caban Cyfansoddi (Composing Cabin)
Dewiswch un o'r clipiau fideo byr, yna ewch ati i greu trac sain ar ei gyfer gan ddefnyddio'r dewis helaeth o steiliau cerddoriaeth, offerynnau a rhythmau gwahanol.

Caban Fideos (Video Cabin)
Gwyliwch gasgliad o glipiau fideo yn y caban teledu sydd wrth ochr pob wagen neu babell.

Mae rhai clipiau'n dangos cyfansoddwyr yn siarad am sut maen nhw'n cyfansoddi, eu hoff ganeuon a beth sy'n eu hysbrydoli.

Mewn clipiau eraill mae'r grŵp Samba Galez yn creu eu cerddoriaeth.

Y map
Os ewch chi ar goll neu os hoffech chi fynd yn syth i mewn i weithgaredd, cliciwch ar yr eicon map ar waelod y sgrin yn y gornel chwith.

Y bar offer
Ble bynnag yr ewch chi, mae'r teitl ar ochr chwith y bar offer yn dweud wrthych chi ble rydych chi yn y Syrcas Gerdd.

Defnyddiwch yr eicon seinydd ar y dde i newid lefel y sain.

Arbed gwaith
Pan fyddwch chi'n arbed darnau o waith, byddan nhw'n cael eu harbed ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio ar y pryd. Dim ond ar y cyfrifiadur hwnnw byddwch chi'n gallu llwytho'r darn yna o waith yn y dyfodol.

Dewiswch enw unigryw ar gyfer eich proffil a defnyddiwch yr enw yma i'w lwytho yn y dyfodol.

Mae modd dileu proffil penodol neu'r hoff broffiliau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.

Cymorth sain a gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.

Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi'n darllen y nodiadau i Rieni ac Athrawon.

Gallwch hefyd symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.

Jiwcbocs

Gwarandewch ar y casgliad o glipiau cerddorol sydd gan Madame Vaudeville yn ei jiwcbocs. Mae nodiadau byr yn cyd-fynd â phob clip sy'n rhoi mwy o wybodaeth i chi am y gerddoriaeth.

Mae'r clipiau yn perthyn i ddeg arddull:

• Roc

• Clasurol

• Gwerin

• Jazz

• Pop

• Reggae

• Soul

• Cyfeiliant Ffilm

• Hip Hop

• Byd

Bydd nodiadau syml yn ymddangos wrth i chi wrando ar y caneuon. Mae'r rhain yn eich arwain drwy bob cân ac yn tynnu sylw at beth i wrando arno yn y gerddoriaeth. Byddan nhw'n dweud mwy am sut cafodd y gerddoriaeth ei chreu, yr offerynnau sy'n chwarae, y defnydd o leisiau a'r arddull cerddorol ei hun.

> Ewch i'r jiwcbocs

Cegin Gerdd

Mae pedwar gweithgaredd yn y Gegin Gerdd. Cliciwch ar fwydlen Mali Mwg i'w chwarae. Cofiwch, mae'n well cwblhau'r lefelau yn y drefn iawn!

1. Dewch i Chwilio

Mae Mali Mwg eisiau i chi ddod o hyd i'r seiniau sydd yn y gegin.

Gwrandewch ar Mali Mwg a dewiswch sain sy'n cyd-fynd â'i disgrifiad hi.

Bydd Mali Mwg yn rhoi cynnig ar eich awgrym ac yn dweud wrthoch chi a oeddech chi'n gywir neu beidio.

Mae help ar gael drwy glicio ar y botwm 'Awgrym' yng nghornel dde uchaf y sgrin.

2. Cadw at y Curiad

Dewch i gyfarfod Wish-Wash y robot golchi llestri. Eich sialens chi fydd copïo rhythmau y tair cerdd mae'n eu hadrodd.

Mae Wish-Wash yn defnyddio odlau arbennig i'w helpu i roi'r platiau ar y rhesel. Gwrandewch ar rhythmau yr odlau ac yna eu copïo wrth daro'r curiadau ar y bylchwr.

Os llwyddwch chi i roi'r platiau ar y rhesel i guriad y rhythm, byddwch chi'n ennill tocynnau i glywed y rhythmau'n cyd-fynd â chaneuon ar y jiwcbocs yn y gegin. Cân bop yw'r gân gyntaf, mae'r ail yn gân pync roc, a'r drydedd yn gân jazz.

I weld faint o docynnau sydd eu hangen arnoch chi, cadwch lygad ar y rhifydd yng nghornel chwith uchaf y sgrin.

3. Jamio gyda'r Band

Defnyddiwch y bylchwr i gopïo'r rhythmau mae Gordon y prif cogydd yn eu creu.

Gordon ydy'r cogydd ar y chwith ond chi sy'n rheoli'r cogydd ar y dde. Byddwch chi'n cael dewis lliw het eich cogydd.

Ceisiwch deimlo curiad y rhythm a dod i mewn ar yr amser cywir. I'ch helpu chi, edrychwch yn ofalus ar y rhes o oleuadau o dan y ddau gogydd.

Mae dewis o ddeg trac cefndir - pob un yn cynrychioli genre cerddorol gwahanol. Dim ond Roc, Jazz a Byd fydd ar gael i chi i ddechrau. Bydd cwblhau'r lefelau hyn yn datgloi Pop, Gwerin a Soul.

Ar ôl cwblhau'r lefelau hynny cewch chi fynd ymlaen at Hip Hop, Reggae, Cyfeiliant Ffilm a Chlasurol.

4. Beth am Greu

Ewch ati i greu trac rhythm ar gyfer darnau o gerddoriaeth gwahanol.

Mae tri dewis gennych chi:

• Creu rhythmau newydd - cyfansoddi traciau newydd sbon

• Fy rhythmau i - defnyddio rhythmau rydych chi wedi eu creu a'u harbed o'r blaen

• Rhythmau Mali Mwg - defnyddio rhythmau mae Mali Mwg wedi eu creu i chi.

Dewiswch gerddoriaeth gyson, cymedrol neu gyflym, yna dewiswch arddull cerddoriaeth o'r rhestr.

Pan fyddwch chi wedi creu rhythm gallwch chi ei chwarae er mwyn gwrando arni.

Pan fyddwch chi'n hapus gyda'ch gwaith ewch ymlaen i ychwanegu rhythm cogydd arall. Gallwch chi ddewis defnyddio rhythmau hyd at bedwar cogydd.

Gallwch chi greu a chadw hyd at dri gwahanol drac.

> Ewch i'r Gegin Gerdd

Caban Cyfansoddi

Dyma'ch cyfle i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â chlip ffilm byr. Darganfyddwch sut gall cerddoriaeth newid naws ffilm neu raglen deledu. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut mae gwahanol haenau'r gerddoriaeth yn gweithio gyda'i gilydd i ffurfio sgôr cerddorol cyfoethog.

Ar ôl dewis fideo, dewiswch pa gerddoriaeth hoffech chi ei defnyddio.

Mae cerddoriaeth Siani yn gymysgedd Fodern, mae cerddoriaeth Hazel mewn arddull Clasurol modern, Roc a Pop ydy cerddoriaeth Ziggy a chyfuniad o gerddoriaeth Werin a Byd sydd gan Xanthu.

Mae pedair rhan i bob ffilm:
• dechrau
• canol 1
• canol 2
• diweddglo.

Mae pedair haen o gerddoriaeth:
• yr alaw (dotiau coch)
• y cyfeiliant (dotiau porffor)
• y bas (dotiau gwyrdd)
• offerynnau taro (dotiau melyn).

Gallwch chi ychwanegu'r gerddoriaeth mewn unrhyw drefn. Mae'n bosob dewis holl rannau un haen yn gyntaf cyn symud ymlaen at y lleill neu ddewis yr holl gerddoriaeth ar gyfer un rhan o'r ffilm ar y tro.

Gallwch chi arbed darnau o'ch gwaith er mwyn eu llwytho rywbryd eto.

Os ydych chi'n cael trafferth dechrau, dewiswch ddarn sydd bron wedi'i orffen drwy glicio ar 'Llwytho' neu dewiswch weithio ar y lefel 'Hawdd' ar ddechrau'r gweithgaredd.

> Ewch i'r Caban Cyfansoddi

Caban Fideos

Casgliad o fideos sy'n sôn am greu cerddoriaeth.

Yn y fideos gwelir:

• Gareth Glyn yn sôn am y grefft o gyfansoddi ac am ei hoff ganeuon

• Geraint Cynan yn egluro pam ei fod wrth ei fodd yn cyfansoddi

• Grŵp taro Samba Galez yn dangos sut maen nhw'n mynd ati i greu cerddoriaeth.

> Gwyliwch y fideos