Am y wefan
Dewch i ddatrys dirgelion o'r gorffennol a darganfod mwy am fywyd a hanes Plant Ddoe.
Adnodd Hanes ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yw Plant Ddoe. Mae yna bump dirgelwch i chi eu datrys. Maen nhw'n digwydd yn ystod Oes Fictoria, yr Oes Edwardaidd, yr Ail Ryfel Byd a'r presennol.
Wrth i chi chwilio am dystiolaeth, fe fyddwch chi'n dysgu pob math o bethau diddorol am fywydau'r plant yn y storïau, yn enwedig yn am eu bywyd cartref a'u profiadau yn yr ysgol.
Bydd arbenigwyr yn eich tywys chi drwy bob dirgelwch ac yn rhannu gwybodaeth am bob cyfnod ac am yr eitemau fyddwch chi'n eu darganfod.
Datrys dirgelwch
Mae pedwar lleoliad i'w harchwilio ym mhob dirgelwch. Cliciwch ar y gwrthrychau er mwyn clywed beth sydd gan yr arbenigwr neu'r llygad-dyst i'w ddweud amdanynt. Ar ôl archwilio pob lleoliad, bydd yn rhaid i chi ddewis ateb posib i'r dirgelwch a dewis un gwrthrych i'w ddefnyddio fel tystiolaeth.
Mae'r holl wybodaeth rydych chi'n ei chasglu yn cael ei chadw yn eich cit tystiolaeth. Gallwch chi edrych ar y wybodaeth yma unrhyw bryd a'i hargraffu ar ddiwedd y dirgelwch. Ar ôl ymweld â'r pedwerydd lleoliad, bydd rhaid i chi ddewis eich ateb terfynol cyn i'r arbenigwr ddatgelu'r cyfan.
Ewch i'r dudalen hon er mwyn lawrlwytho'r pecynnau argraffu.
Y pump dirgelwch:
Castiau'r Castell (Yr Alban, 1856)
Mae darnau bychain o emwaith wedi diflannu o gartref y teulu Murray. Mae rhai yn credu mai Kate y forwyn sydd wedi eu dwyn. Ai hi yw'r lleidr?
Dirgelwch y Mwg (Canolbarth Lloegr, 1897)
Mae hi'n ddiwrnod dathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Fictoria. Mae mwg jiwbilî arbennig Lizzie wedi mynd ar goll. Ble gallai e fod?
Y Dychrynwr Adar (Pen-y-bont ar Ogwr, 1910)
Mae Harry Williams wedi symud i fyw ar fferm gyda'i fodryb a'i ewythr. Mae pethau wedi cael eu dwyn ac mae Harry wedi diflannu. Lle mae e wedi mynd?
Bachgen y Blitz (Belfast, 1941)
Mae Jim Moore a'i gi Champion wedi mynd ar goll y bore ar ôl cyrch awyr trwm. Gallwch chi ddarganfod beth sy wedi digwydd i Jim a Champion?
Ffortiwn Murray (Lerpwl, heddiw)
Mae rhywun yn mynd i etifeddu ffortiwn y teulu Murray. Helpwch Billy i ddatrys y dirgelwch ac i hawlio'r wobr am ddarganfod pwy yw'r gwir etifedd.
Cymorth Sain a Gweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:
- newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
- clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel
- arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain
Allwch chi ddim clicio ar y botwm Cymorth Clyweledol tra eich bod chi yn yr adran 'Gwybodaeth'.
Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.
Mwy o wybodaeth
Pecynnau Argraffu
Lawrlwythwch y pecynnau sy'n cynnwys mwy o wybodaeth am yr eitemau, y tystion a'r lleoliadau ym mhob dirgelwch.
Dirgelwch 1 - Castiau'r Castell
Dirgelwch 3 - Y Dychrynwr Adar
Cysylltiadau'r BBC
BBC Cymru Hanes
Dewch i ddarganfod mwy am hanes Cymru drwy'r oesau.
BBC Cymru - Snowdonia 1890
Deunydd archif o'r 1890au i'w argraffu a'i ddefnyddio yn y dosbarth.
BBC Cymru Hanes - Cymru yn Oes Fictoria
Gwybodaeth am sut cafodd Cymru ei thrawsnewid yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
BBC Cymru - Synau Stalwm
Ewch i grwydro ar hyd stryd yn yr Oes Edwardaidd yn y cyfnod rhwng 1900 a 1910 i ddysgu am fywyd gan mlynedd yn ôl.
BBC Cymru Hanes - Atgofion Blitz Abertawe
Mwy am y bomio a sut oedd pobl yn ymdopi yn y llochesau.
BBC Cymru Hanes - Cymru a'r Ail Ryfel Byd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
NGfL - Bywyd Ysgol yng Nghymru
Public Record Office of Northern Ireland