Am Hel Hanes
Dysgwch sut i Hel Hanes eich ardal leol trwy ddatguddio'r cyfoeth o dystiolaeth sydd o'ch amgylch.
Casgliad o weithgareddau hanes ar gyfer disgyblion 7-11 oed (Cyfnod Allweddol 2) yw Hel Hanes. Nod y gweithgareddau yw ysbrydoli disgyblion i ddarganfod y cyfoeth o hanes o'u hamgylch.
Y tri gweithgaredd yw:
Dilyn Dy Drwyn
Ewch ar drywydd wyth digwyddiad hanesyddol yng nghwmni eich cyfaill S182. Mae gan y ci robotig yma drwyn da am stori - ac ef bydd yn eich tywys o gwmpas y toreth o dystiolaeth sydd o'ch cwmpas. Eich tasg chi wedyn yw astudio'r dystiolaeth a darganfod beth yn union ddigwyddodd.
Achubwch Fi
Eich pleidlais chi sy'n penderfynu dyfodol dau adeilad hanesyddol mewn rhaglen deledu ddychmygol.
Mae castell o Oes Fictoria wedi gweld dyddiau gwell a gwersyll carcharorion o'r Ail Ryfel Byd wedi hen fynd â'i ben iddo.
Ond sut dylid fynd ati i adfer yr adeiladau unigryw yma? Gwrandewch yn astud ar farn yr arbenigwyr cyn penderfynu.Trwy'r Ffenest
Beth sydd tu allan i'ch ffenest chi? Dysgwch am wyth nodwedd arbennig o'r tirlun - gan gynnwys rheilffyrdd a thraffyrdd, iardiau llongau a blociau fflatiau.
Gwyliwch ffilmiau archif hanesyddol ac astudio hen luniau. A beth am roi cynnig ar gasglu pob math o ffeithiau hanesyddol diddorol trwy chwarae'r cwis cyflym?
Cymorth Clyweledol
Cliciwch ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:
- newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
- clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel
- arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain
Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi yn yr adran 'Gwybodaeth'. Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.
Am Dilyn Dy Drwyn
Croeso i'r pencadlys! Dyma eich cyfle chi i astudio wyth digwyddiad rhyfedd hanesyddol. Bydd pennaeth y pencadlys yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ac yn profi eich sgiliau gyda chyfres o gwestiynau.
Eich cyfaill o gi, S182, bydd yn casglu'r dystiolaeth ac yn ei hanfon yn ôl atoch er mwyn i chi ei harchwilio a darganfod yr atebion i'r cwestiynau.
Ar ôl i chi gwblhau eich ymchwiliad byddwch yn cael y cyfle i wylio ffilm fer am y digwyddiad. Byddwch hefyd yn derbyn pennod newydd ar gyfer eich llawlyfr. Gallwch lawrlwytho'r llyfryn a'i argraffu.
Ewch at weithgareddau Dilyn Dy Drwyn
Yr wyth ymchwiliad yw:
Y Parasiwtydd Coll
Darganfyddwch rhesymau dros farwolaeth parasiwtydd ifanc a dewr yn ystod Arddangosfa Caerdydd yn 1896.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Cerrig Beddi
Storm Mis Tachwedd
Ymchwiliwch i achos trychineb Loch Carlingford ar arfordir County Down yn 1916.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Gwrthrychau
Stori'r Tywysog
Dysgwch am fywyd y Tywysog Albert, gŵr y Frenhines Fictoria. Mae ei waith da yn cael ei goffáu yn Llundain hyd heddiw.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Adeiladau
Y Ddihangfa Lwcus
Casglwch wybodaeth am ddihangfa wyrthiol ar ôl i adeilad llawn bobl ddymchwel yng Nghaeredin yn 1861.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Cofebau
Y Tram Olaf
Ymchwiliwch i daith y tram ceffyl olaf yn Iwerddon.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Arwyddion Tref
Yr Ynys Ddu
Dysgwch am fordaith olaf Fferi Kessock ac am y bont newydd a gymerodd ei lle.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Trafnidiaeth
Yr Ysgrifen ar y Mur
Dyma gyfle i ddarganfod beth oedd yn digwydd mewn ffeiriau cyflogi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Enwau Strydoedd
Pleserau Glan y Môr
Dysgwch am hanes pier Llandrillo-yn-Rhos a darganfod beth ddigwyddodd pan aeth rhywbeth mawr o'i le yn ystod mordaith bleser.
Lawrlwytho pecyn argraffu Archwilio Adfeilion
Nodwch holl ffynonellau'r dystiolaeth hanesyddol rydych chi wedi eu casglu. Pa ffynonellau allech chi eu defnyddio i ddarganfod mwy am ddigwyddiadau hanesyddol yn eich ardal chi?
Am Achubwch Fi
Sioe deledu ddychmygol yw Achubwch Fi. Nod y gynulleidfa ydy penderfynu ar dynged dau adeilad hanesyddol - ac mae angen eich help chi i ddyfarnu.
Ewch at weithgareddau Achubwch Fi
Yr adeiladau dan sylw yw:
Castell Oes Fictoria
Cartref crand oedd hwn yn wreiddiol. Ond erbyn heddiw mae'r hen gastell druan wedi mynd â'i ben iddo. Beth fyddai'n gweddu orau - ei adfer a'i droi'n amgueddfa neu ei ailwampio a'i rannu'n fflatiau moethus?
Gwersyll Carcharorion o'r Ail Ryfel Byd
Adeilad dros dro i gadw carcharorion oedd y gwersyll - ac mae wedi gweld dyddiau gwell. A ddylid ei atgyweirio a'i droi'n atyniad ymwelwyr? Neu ei ddymchwel a chodi canolfan hamdden yn ei le?
Gwrandewch yn astud ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn y cynlluniau - yna ewch ati i fwrw eich pleidlais. Cofiwch fod eich cefnogaeth chi'n holl-bwysig!
Edrychwch o gwmpas eich ardal. Pa adeiladau hanesyddol sydd angen eu hadfer? Beth fyddai'r peth gorau i'w wneud gyda nhw?
Am Trwy'r Ffenest
Beth sydd tu allan i'ch ffenest chi? Dewch o hyd i wybodaeth am wyth nodwedd arbennig o'r tirlun trwy edrych ar ffotograffau, gwylio ffilm archif hanesyddol a gwrando ar atgofion pobl.
Ewch at weithgareddau Trwy'r Ffenest
Yr wyth nodwedd yw:
Rheilffyrdd
Melinau
Blociau Fflatiau
Iardiau Llongau
Traffyrdd
Pyllau Glo
Crofftau
Camlesi
Mae gan bob thema:
- fideo rhagarweiniol
- ffilm archif hanesyddol
- lluniau hanesyddol
- adroddiadau gan dystion
- cwis syml a ffeithiau diddorol
- ffilm fonws i'w gwylio.
Oes nodweddion tebyg yn eich ardal chi? Chwiliwch am hen luniau neu ffilm archif er mwyn dysgu mwy amdanyn nhw. Dewch o hyd i rywun sy'n cofio sut oedd bywyd sers talwm a gofynnwch iddyn nhw rannu eu hatgofion.