Gwybodaeth i Rieni ac Athrawon

Mae Ein Byd yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2:


Dewch i ddysgu mwy am ddaearyddiaeth trwy grwydro Ewrop o Langrannog i Wlad Pwyl. Mae Ein Byd yn hybu dealltwriaeth o chwe agwedd wahanol o ddaearyddiaeth ddynol trwy gyfrwng fideos a chlipiau sain. Gallwch chi ddefnyddio'r cynnwys yma i greu eich project eich hun trwy greu ffilmiau a phosteri.

Astudiaethau
Yn y chwe astudiaeth mae pobl ifanc mewn chwe gwlad wahanol yn cyflwyno ffilmiau byr sy'n trafod effaith y themâu canlynol ar eu bywydau bob dydd:

Cludiant a Theithio Ynysoedd Gorllewinol yr Alban
Sbwriel ac Ailgylchu Gogledd Iwerddon
Bwyd Lloegr
Tai ac Aneddiadau Cymru
Twristiaeth Mallorca, Sbaen
Ffiniau Gwlad Pwyl

Ym mhob astudiaeth mae 9 -12 clip fideo byr wedi eu gosod mewn tirlun wedi ei animeiddio. Mae wyneb cyfeillgar yn awgrymu pa fideo i'w wylio nesaf.

Mae'r astudiaethau hefyd yn cynnwys fideos sy'n edrych ar yr agweddau daearyddol yma ym mhedwar ban byd.

Teclyn Fideo
Defnyddiwch y Teclyn Fideo i greu ffilmiau byr yn defnyddio darnau fideo wedi eu cymryd o'r chwe astudiaeth. Gallwch greu ffilmiau yn dangos beth rydych chi wedi ei ddysgu wrth wylio'r astudiaethau, adrodd stori neu greu fideo am eich profiadau chi. Mae yna amrywiaeth o glipiau fideo sydd wedi eu trefnu fesul thema i ddewis ohonyn nhw. Mae modd ychwanegu eich capsiynau eich hun a dewis trac sain ar gyfer eich ffilm.

Teclyn Posteri
Mae'r Teclyn Poster yn eich galluogi chi i greu posteri neu dudalennau cylchgrawn. Defnyddiwch y teclyn i greu gwaith sy'n adlewyrchu beth rydych chi wedi'i ddysgu wrth wylio'r astudiaethau neu greu project am eich hardal chi. Mae yna ddewis o ffotograffau wedi eu cymryd o'r fideos yn yr astudiaethau ac mae'n bosib defnyddio'r offer lluniadu i ychwanegu testun a thynnu lluniau eich hun.

Arbed Gwaith
Gallwch arbed y gwaith rydych chi'n greu gyda'r Teclyn Fideo a'r Teclyn Poster. Bydd y gwaith ond yn cael ei arbed ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio ar y pryd a dim ond ar y peiriant hwnnw bydd modd ail-lwytho'r gwaith yna yn y dyfodol. Os byddwch chi'n arbed sawl darn mawr o waith ar yr un cyfrifiadur mae hi'n bosib bydd bocs deialog yn ymddangos sy'n gofyn i chi a ydych chi am ganiatáu'r rhaglen i ddefnyddio mwy o gof y cyfrifiadur. Bydd angen cytuno i hyn cyn gallu arbed mwy o waith.

Mae modd dileu project penodol neu'r holl brojectau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau ar gyfer y teclyn fideo neu i'r dudalen rheoli proffiliau ar gyfer y teclyn poster.

Cymorth Sain a Gweledol
Cliciwch ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.

Allwch chi ddim clicio ar y botwm yma tra eich bod chi'n darllen y Nodiadau Rhieni ac Athrawon.

Gallwch ddefnyddio'r bysellfwrdd i symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys.

Cludiant a Theithio

Mae'r astudiaeth yma o drafnidiaeth ar ynysoedd bychain yn canolbwyntio ar Ynysoedd Gorllewinol yr Alban.

Mae pobl ifanc o ynysoedd Skye, Barra a chadwyn Uist yn edrych ar broblemau teithio ar ynysoedd bach anghysbell wrth i ni eu gweld yn teithio ar y ffordd, ar y môr ac yn yr awyr.

Mae tri fideo ychwanegol yn ymchwilio i drafnidiaeth o gwmpas y byd ar Ynysoedd y Galapagos, Ulva a Tristan da Cuhna.

Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:

• y mathau o drafnidiaeth sy'n gyffredin i'r Hebrides ac ynysoedd bychain eraill
• pa fathau o drafnidiaeth sy'n cael eu defnyddio o gwmpas y byd
• beth yw'r anawsterau a'r problemau sy'n perthyn i drafnidiaeth ar ynysoedd bychain
• sut mae trafnidiaeth yn effeithio ar fywydau pobl ar yr ynysoedd
• effaith trafnidiaeth ar eu bywydau nhw
• y problemau trafnidiaeth lle maen nhw'n byw.

Sbwriel ac Ailgylchu

Dyma astudiaeth o sbwriel ac ailgylchu yng Ngogledd Iwerddon.

Mae pobl ifanc lleol yn edrych ar y problemau sy'n gysylltiedig â chael gwared ar sbwriel ac yn egluro pam mae dysgu pobl i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mor bwysig.

Mae fideos eraill yn edrych ar ailgylchu ar ynys Cuba, beth sy'n digwydd i'r holl glytiau babanod sy'n cael eu taflu bob blwyddyn a sut mae'n bosib ailddefnyddio gwastraff bwyd yn yr ardd.

Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:

• beth sy'n digwydd i'r sbwriel rydyn ni'n ei daflu
• y problemau mae cael gwared ar sbwriel yn eu creu
• beth sy'n digwydd i'r pethau rydyn ni'n ailgylchu
• pwysigrwydd lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
• y camau ymarferol gallan nhw eu cymryd i leihau faint o sbwriel maen nhw'n ei daflu
• lle mae eu cyfleusterau ailgylchu lleol a beth sydd yn digwydd yno.

Twristiaeth

Mae'r astudiaeth yma o dwristiaeth yn canolbwyntio ar Ynys Mallorca yn y Môr Canoldir.

Ymunwch â phobl ifanc lleol sy'n rhoi blas i ni o fywyd ar ynys Mallorca ac yn ystyried sut mae twristiaeth dorfol wedi effeithio arni.

Mae fideos eraill yn trafod gwyliau antur, gwyliau glan môr traddodiadol a digwyddiadau arbennig sy'n denu llawer o bobl.

Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:

• sut mae twristiaeth yn effeithio ar fywyd ym Mallorca
• manteision ac anfanteision twristiaeth
• y gwahanol fathau o wyliau sydd ar gael
• ardaloedd sydd mewn perygl oherwydd effeithiau twristiaeth
• y math o ardaloedd maen nhw'n ymweld â nhw ar eu gwyliau
• pa bethau arbennig sydd yn eu hardal nhw i ddenu ymwelwyr.

Bwyd

Dyma astudiaeth o fwyd sydd wedi ei lleoli yn ninas Birmingham yn Lloegr.

Mae pobl ifanc lleol yn ein tywys o gwmpas y ddinas ac yn trafod bwyd sy'n cael ei dyfu'n lleol, o ba mor bell daw ein bwyd a manteision prynu cynhyrchion Masnach Deg.

Mae ffilmiau byrion eraill yn edrych ar hanes siocled, y bwyd sy'n cael ei fwyta ar achlysuron arbennig a'r bwydydd rhyfedd sy'n cael eu bwyta o gwmpas y byd.

Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:

• o lle daw y bwyd rydyn ni'n fwyta
• pa fwyd sy'n cael ei gynhyrchu yn eu hardal nhw a lle mae'n cael ei werthu
• sut mae ein harferion bwyta wedi newid
• y bwydydd rydyn ni'n eu bwyta ar achlysuron arbennig
• sut mae cynllun Masnach Deg yn helpu cynhyrchwyr bwyd
• y bwydydd o wahanol ddiwylliannau sydd ar gael ym mhobman bellach.

Ffiniau

Mae'r astudiaeth yma o ffiniau yn canolbwyntio ar drefi Cieszyn a Zabrze yng Ngwlad Pwyl.

Dysgwch am ffiniau gwleidyddol rhwng gwledydd, ffiniau rhwng cymunedau a ffiniau naturiol. Mae pobl ifanc lleol yn disgrifio sut mae ffiniau'n gallu newid dros amser ac yn egluro sut a pham mae pobl yn eu croesi.

Mae fideos eraill yn edrych ar y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mexico, ynys ranedig Cyprus a Gwlad y Basg.

Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:

• ffiniau a hanes Gwlad Pwyl
• sut mae ymuno â'r Undeb Ewropeaidd wedi hwyluso teithio i wledydd eraill
• y gwahanol fath o ffiniau sy'n bodoli
• sut mae ffiniau yn gallu newid dros amser
• sut mae ffiniau yn ein helpu i ddeall pwy ydyn ni
• pa ffiniau sydd yn eu hardal leol.

Tai ac Aneddiadau

Mae'r astudiaeth hon yn edrych ar dai ac aneddiadau yng Nghymru.

Gwyliwch bobl ifanc yn trafod y gwahanol fathau o lefydd maen nhw'n byw ynddyn nhw gan gynnwys pentref glan môr, stad o dai ac eco-gymuned. Maen nhw'n adrodd hanes yr aneddiadau ac yn egluro sut maen nhw wedi newid dros y blynyddoedd.

Mae fideos eraill yn edrych ar wlad anghysbell Mongolia, dinas boblog Hong Kong a favelas Brasil.

Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:

• sut mae aneddiadau yng Nghymru yn gallu bod yn wahanol iawn i'w gilydd
• pam mae aneddiadau yn newid dros amser
• y math o anheddiad maen nhw'n byw ynddo
• y gwahanol fathau o aneddiadau ledled y byd
• ffyrdd o fyw sydd dan fygythiad.

Teclyn Fideo

Pecyn fideo hawdd ei ddefnyddio yw hwn, sy'n galluogi defnyddwyr i greu ffilmiau fideo byr eu hunain.

Mae defnyddwyr yn gallu dewis a threfnu darnau fideo wedi eu cymryd o'r chwe astudiaeth, ysgrifennu eu capsiynau eu hunain ac ychwanegu trac sain cerddoriaeth. Gyda'r adnodd hyblyg hwn gall defnyddwyr greu ffilmiau yn dangos beth maen nhw wedi'i ddysgu wrth wylio'r astudiaethau, adrodd stori neu greu fideo am eu profiadau nhw.

• Mae amrywiaeth o glipiau fideo byr, hir a chanolig wedi eu trefnu fesul thema. Mae modd cael rhagolwg o'r clipiau drwy eu llusgo nhw i mewn i'r ffenest fideo. Gall defnyddwyr eu llusgo nhw i'r llinell amser fideo ar waelod y sgrin er mwyn eu cynnwys yn y ffilm.

• Wrth glicio ar y blwch capsiynau mae modd creu teitlau a chapsiynau a'u llusgo i'r llinell amser i'w gosod ar y clip fideo perthnasol.

• Mae modd dewis cerddoriaeth i chwarae dros y ffilm gyfan trwy glicio ar y panel dewis trac sain ar waelod y sgrin.

• Gall defnyddwyr gadw eu gwaith ar y cyfrifiadur maen nhw'n ei ddefnyddio ar y pryd trwy glicio ar yr eicon cadw. Yn y dyfodol bydd hi'n bosib ail-lwytho ac ail chwarae eu ffilm ar y peiriant hwnnw yn unig.

• Mae modd dileu project penodol neu'r holl brojectau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.

• Trwy glicio ar fotwm y wyneb cyfeillgar gall defnyddwyr wylio tiwtorial sy'n cynnig hyfforddiant fesul cam ar sut i ddefnyddio'r teclyn.

Teclyn Poster

Dyma declyn sy'n galluogi defnyddwyr i greu posteri a thudalennau ar gyfer gwe-gylchgrawn.

Gall defnyddwyr ddewis ffotograffau wedi eu cymryd o'r fideos yn yr astudiaethau, ychwanegu testun a thynnu lluniau eu hunain. Gyda'r adnodd hyblyg hwn gall defnyddwyr greu gwaith sy'n adlewyrchu beth maen nhw wedi'i ddysgu wrth wylio'r astudiaethau neu greu project am eu hardal nhw.

Yn y panel ar ochr chwith y sgrin mae'r offer sy'n galluogi defnyddwyr i:
• ychwanegu ffotograffau o oriel glipiau helaeth, eu symud o gwmpas y sgrin a newid eu maint
• tynnu lluniau gan ddefnyddio detholiad o offer lluniadu fel pen, brwsh a chreon
• ychwanegu testun at y dudalen
• argraffu eu gwaith.

Mae'r eicon pot inc yn dangos faint o adnoddau sydd ar ôl.

Gall defnyddwyr gadw eu gwaith ar y cyfrifiadur maen nhw'n ei ddefnyddio ar y pryd trwy glicio ar yr eicon cadw. Dim ond ar y cyfrifiadur yma byddan nhw'n gallu llwytho y gwaith yma yn y dyfodol.

Mae modd dileu project penodol neu'r holl brojectau sydd ar eich cyfrifiadur trwy fynd i'r dudalen rheoli proffiliau.

Gall defnyddwyr sydd angen help glicio ar fotwm y wyneb cyfeillgar i wylio tiwtorial sy'n cynnig hyfforddiant fesul cam ar sut i ddefnyddio'r Teclyn Poster.