Gwybodaeth i Rieni ac Athrawon

Mae Doctor Dot yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 5-7 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1:

Mwynhewch gemau gwyddoniaeth yng nghwmni Doctor Dot. Cyflwynir cysyniadau gwyddonol mewn ffordd gyffrous a difyr. Mae'r gemau'n ymdrin â grymoedd, priodweddau defnyddiau a chynefinoedd anifeiliaid a phlanhigion.

Cliciwch ar y llyfr i ryddhau Doctor Dot a fydd yn cyflwyno'r tair gêm sydd wedi eu rhestru ym mynegai'r llyfr.

Mae tair gêm:

Syrcas Chwain
Dyma gasgliad o gemau grymoedd. Helpwch y chwain trwy ddewis y maint cywir o rym sydd ei angen er mwyn iddyn nhw allu gwneud eu triciau yn llwyddiannus.

Gwylwyr Natur
Adnodd am gynefinoedd yw hwn. Darganfyddwch pa greaduriaid a phlanhigion sydd yn byw mewn cynefinoedd gwahanol.

Y Twtiaid
Dyma gemau am briodweddau defnyddiau. Teithiwch i'r blaned Twt i ddangos i'r Twtiaid druan pa ddefnyddiau sydd eu hangen arnyn nhw i wneud tasgau gwahanol.

Cymorth Sain a Gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.

Dydy hi ddim yn bosib mynd at y dewisiadau yma tra eich bod chi yn yr adran Rhieni ac Athrawon.

Gallwch symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio bysell Tab.

Syrcas Chwain

Grymoedd yw thema'r gemau yma. Helpwch y chwain i wneud eu triciau syrcas anhygoel gyda chanonau, pasteiod cwstard, trapisau a thrampolinau! Eich tasg chi fydd dewis y maint cywir o rym i'w ddefnyddio bob tro.

Mae'r gêmau yn dangos sut gall amrywio cryfder grym (gwthiad) newid cyflymder a chyfeiriad gwrthrych sy'n symud.

Rydych chi'n cael arbrofi a gwneud camgymeriadau ond mae'n rhaid llwyddo dair gwaith ac ennill tair chwannen er mwyn cwblhau gêm.

Wrth i'r lefelau fynd yn fwy anodd bydd angen i chi reoli nifer cynyddol o newidynnau.

Y Tŵr Chwain Anhygoel

Helpwch y chwannen ar y si-so i lanio ar y targed.

Bydd y chwannen gyntaf yn neidio o'r platfform ac yn glanio ar y si-so er mwyn taflu'r chwannen arall i'r awyr i gyfeiriad y targed neu'r tŵr chwain.

Chwifio'r Chwannen Chwareus

Helpwch y chwannen i fwrw'r targed pan mae'n cael ei saethu o ganon.

Y Chwyrligwgan Cwstard

Helpwch y chwannen i anelu ei phastai gwstard at y targedau!

Y Trapîs Chwain Trafferthus

Helpwch y chwain i wneud triciau ar y trapîs!

Y Ffinalé Mawreddog

Mae hwn yn gyfle i wylio holl driciau'r chwain unwaith eto.

Llusgwch y sêr lliw rydych chi wedi eu hennill i'r bylchau yn y stribed ffilm. Cliciwch ar eicon y camera i wylio ffilm sy'n gasgliad o glipiau o'r gemau gwahanol.

> Chwarae Syrcas Chwain

Gwylwyr Natur

Gweithgareddau am gynefinoedd yw y rhain. Darganfyddwch pa greaduriaid a phlanhigion sy'n byw yn ble o dymor i dymor. Gwyliwch glipiau fideo, chwaraewch y gêm cynefinoedd a gwnewch fwgwd o'ch hoff anifail.

Gweithgaredd Map
Cliciwch ar y gwahanol ardaloedd ar y map i weld yr anifeiliaid a'r planhigion sy'n byw yno yn y gwanwyn, yr haf, yr hydref a'r gaeaf.

Gwyliwch fideo byr am greadur neu blanhigyn wrth glicio arno.

Dewiswch dymor wrth glicio ar yr eicon cwmwl ar waelod y sgrîn - mae'r creaduriaid a'r planhigion ar y map yn newid o dymor i dymor.

Cliciwch ar eicon marc cwestiwn i gael help gan Fflwff, y gwdihŵ.

Gêm Cynefinoedd
Cliciwch ar yr eicon pawen ar waelod y sgrîn i chwarae.

Mae'r gêm yn gofyn i chi ddewis anifail ac yna dewis cynefin delfrydol ar ei gyfer.

Mae angen ystyried nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar y cynefin mae anifail yn ei ddewis:
• lle mae'n byw
• y math o gartref
• y bwyd mae'n ei fwyta
• y math o anifail fyddai'n byw wrth ymyl.

Mae atebion yn gallu newid o dymor i dymor.

Mae tair lefel.

Creu mwgwd
Ar ôl gorffen gêm, cliciwch ar yr eicon mwgwd arth sy'n ymddangos ar dop y sgrîn.

Cliciwch ar y darnau a llusgwch nhw i'r sgrîn i greu mwgwd.

Argraffwch eich mwgwd ar ôl i chi orffen.

> Chwarae Gwylwyr Natur

Y Twtiaid

Gêm am briodweddau defnyddiau yw hon. Helpwch y Twtiaid sydd wedi anghofio beth yw priodweddau'r defnyddiau ar eu planed. Dewiswch y defnyddiau cywir ar gyfer gwahanol dasgau - neu twyllwch y Twtiaid i ddefnyddio'r un anghywir er mwyn gweld eu hymateb digri!

Wrth i'r gêm fynd yn fwy anodd, byddwch chi'n cael mwy o opsiynau i ddewis ohonyn nhw, a bydd y gwahaniaethau rhwng y defnyddiau'n llai amlwg.

Os yw eich ateb yn anghywir bydd y Twtiaid yn dweud wrthoch chi pam nad yw'r deunydd ddewisoch chi'n addas ar gyfer y dasg.

Mae dwy fath o gêm.

Gêm sialens
Penderfynwch a ydych chi am fod yn dda a rhoi atebion cywir i'r Twtiaid neu yn bowld a rhoi atebion anghywir iddyn nhw.

Dewiswch ble ar y llinell rydych chi am roi'r seren a defnyddiwch y saethau coch a glas i'w gosod yno. Eich sialens yw i anelu at y sgôr yna drwy roi'r cymysgedd cywir o atebion cywir ac anghywir. Pan fyddwch chi'n chwarae'r gêm, bydd y mesurydd powld a da yn symud i'r chwith pan fyddwch chi'n anghywir ac yn symud i'r dde pan fyddwch chi'n ateb yn gywir.

Bydd y defnydd ddewisoch chi'n cael ei ychwanegu at eich casgliad sydd i'w weld ar dop y sgrin.

Gêm chwilota
Bydd y mesurydd powld a da yn dechrau yn y canol ac yn symud wrth i chi ateb y posau yn gywir neu'n anghywir.

Mae tair lefel yn y ddwy fath o gêm:

Lefel hawdd
Dewiswch rhwng dau ddefnydd yn mhob pos. Mae chwe phos a chwech o defnyddiau i'w casglu.

Lefel canolig
Dewiswch rhwng tri defnydd yn mhob pos. Mae wyth pos ac wyth o ddefnyddiau i'w casglu.

Lefel anodd
Dewiswch rhwng pedwar defnydd, rhai ohonyn nhw'n debyg iawn i'w gilydd. Mae wyth pos ac wyth o ddefnyddiau i'w casglu.

Lliwio Llun
Ar ôl cwblhau lefel, dewiswch lun a defnyddiwch y defnyddiau rydych chi wedi eu casglu i'w liwio.

> Chwarae Y Twtiaid