Am y wefan
Pam wnaeth llong y Monrovia suddo? Corff pwy sydd wedi'i gladdu yn y gors?
Dyma eich cyfle chi i ymuno ag Axon - sefydliad cyfrinachol o wyddonwyr cydwybodol. Eich tasg ydy ceisio darganfod y ffeithiau gwyddonol tu ôl i ddau ddigwyddiad anesboniadwy.
Ydych chi'n barod i dderbyn yr her?
Antur wyddoniaeth ryngweithiol ar gyfer pobl ifanc 11-14 oed, Cyfnod Allweddol 3, ydy gwefan Axon. Mae'r adnodd yn plethu clipiau drama â chyfres o arbrofion rhyngweithiol sydd yn rhaid eu cwblhau cyn gallu datrys y dirgelion.
I gwblhau'r tasgau rhaid i chi weithio drwy'r negeseuon mae Axon yn eu hanfon atoch chi. Fe all y negeseuon yma fod yn glipiau fideo, yn ddogfennau rhyngweithiol, yn arbrofion neu yn adroddiadau.
Cofiwch, bydd pennaeth Axon yn asesu eich perfformiad chi ac yn pendefynu os ydych chi'n ddigon da i fod yn asiant. Cwblhewch yr hyfforddiant er mwyn cael eich derbyn fel asiant dros Axon a symud ymlaen at y brif dasg.
1. Tasg hyfforddi - Monrovia
Eich gorchwyl cyntaf chi ydy darganfod pam ddiflannodd llong y Monrovia mewn amgylchiadau amheus.
Llong fawr 30,000 o dunelli ar gyfer cludo nwyddau oedd yr MV Monrovia. Diflannodd yn ddi-rybudd ar noson stormus yng nghanol Môr y Gogledd. Mae asiantau Axon wedi dod o hyd i weddill y llong yn ddau ddarn ar wely'r môr. Eich nod chi ydy ceisio darganfod beth ddigwyddodd iddi.
Tonnau: Ydy hi'n bosib mai tonnau'r storm wnaeth hollti a suddo'r Monrovia?
Ffrwydradau: Wnaeth rhywbeth ar fwrdd y Monrovia achosi ffrwydrad digon mawr i'w hollti a'i suddo?
2. Prif dasg - Corff Cors
Mae Mrs Ceri Evans wedi dod o hyd i gorff yn y mawn yng Nghors Las ar Ynys Môn. Mae hi'n meddwl mai corff Seiriol, sant Cymreig oedd yn byw yn yr ardal 1,500 o flynyddoedd yn ôl ydy e. Ond mae hi angen cadarnhad.
Chwiliwch am gliwiau fyddai'n gallu dweud rhywbeth wrthoch chi am y corff - pwy oedd e ac am faint o amser y byddai wedi gallu bod yno. Ydy hi'n wirioneddol bosib i gorff gadw heb pydru am dros 2,000 o flynyddoedd?
Am y gors: Beth sy'n gwneud y gors yn wahanol i unrhyw amgylchedd arall? Oes yna rywbeth arbennig amdani allai fod wedi helpu i gadw'r corff rhag pydru?
Am y corff: Archwiliwch y corff ac edrych am unrhywbeth allai eich helpu i gael gwybod pwy oedd y person yma.
Atal y pydredd: Edrychwch beth sy'n digwydd i gorff mewn mynwent arferol ac arbrofwch i weld beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n newid yr amgylchedd.
Profion metel: Archwiliwch arteffactau Cors Las a'u cymharu ag eitemau o'r Oes Haearn. Ydy hi'n bosib bod gwrthrychau Cors Las yn dod o'r Oes Haearn?
Y dail a'r paill: Defnyddiwch y goeden ddosbarthu a'r microsgop i gael gwybod o ba blanhigion mae'r dail a'r paill cafodd eu darganfod ar y corff yn dod.
Casglwch eich canfyddiadau yn y Llyfr Nodiadau wrth i chi gyflawni'r arbrofion. Yna, cofiwch gadw nhw'n ddiogel yn eich Adroddiad er mwyn cyflwyno i'r pennaeth.
Cymorth Clyweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm Cymorth Clyweledol er mwyn:
- newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
- clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
Bydd defnyddwyr yn gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.
Tasg 1: Hyfforddiant
Ar orffen y gweithgareddau Ffrwydradau a Tonnau bydd y dysgwr yn cymhwyso fel asiantau Axon.
Ffrwydradau
Gweithgaredd yw Ffrwydradau sy'n ymdrin ag adweithiau cemegol, cyrydu, newid cyflwr a throsglwyddo ynni, adweithiau asidau ac isopropyl. Bydd y dysgwr yn gwylio animeiddiadau sy'n dangos y potensial am adweithiau ffrwydrol ar long gludo. Rhaid i'r dysgwr werthuso'r hyn y mae wedi'i weld a phenderfynu ai'r deunydd ar y llong yn ffrwydro a achosodd iddi suddo. Rhoddir cyd-destun drwy ddysgu'r wyddoniaeth fel rhan o stori ryngweithiol lle mae'n rhaid i'r dysgwr ddatrys dirgelwch drwy ddefnyddio gwyddoniaeth.
Tonnau
Gweithgaredd yw Tonnau sy'n galluogi'r dysgwr i archwilio ynni cinetig y môr a'r trosglwyddiad sy'n digwydd pan fydd ton yn cyffwrdd llong. Mae hyn yn gyfle i graffu ar feysydd eraill o drosglwyddo a storio ynni, yn enwedig grym tonnau ac adnoddau cynaliadwy.
Mae'r tanc tonnau yn galluogi'r dysgwr i benderfynu a fyddai ton wedi meddu ar ddigon o egni ac wedi rhoi digon o bwysau ar long yr MV Monrovia i'w suddo.
Tasg 2: Corff cors
Mae'r dasg Corff Cors yn cyflwyno pump o weithgareddau gwyddonol wrth i'r dysgwyr archwilio cors o fawn a'r corff, nad yw wedi pydru, sydd wedi ei ganfod yno.
Am y Gors
Yn y gweithgaredd hwn, mae'r dysgwr yn cael gwybodaeth am ddaearyddiaeth, daeareg, cemeg a bioleg cors o fawn asidig er mwyn chwilio am gliwiau sy'n berthnasol i gadw rhywbeth organig mewn cyflwr da, hynny yw heb iddo bydru. Mae'r gweithgaredd yn rhoi cyfleoedd amlddisgyblaethol gan alluogi'r dysgwr i ganolbwyntio ar ecosystem unigryw'r mawndir a hefyd ar yr effaith fawr y mae pobl wedi'i chael ar yr amgylchedd hwn yn hanesyddol a heddiw. Mae'r rhyngweithio'n ddigon hawdd a syml er mwyn i'r dysgwr allu canolbwyntio ar amsugno gwybodaeth a dysgu.
Am y Corff
Mae Am y Corff yn gyfle i'r dysgwr archwilio'r corff y daethpwyd o hyd iddo, heb bydru, yn y gors. Mae'n annog y dysgwr i graffu'n ofalus ar y manylion i gyd i ganfod cliwiau a allai ddweud wrthynt pwy oedd y person. Bydd y dysgwr yn craffu ar luniau o'r corff i chwilio am gliwiau am fywyd a marwolaeth y person, edrych ar y dannedd i weld pa mor hen oedd y person a phryd y bu farw a chymryd mesuriadau i weld pa mor dal oedd y person.
Mae Am y Corff yn rhoi cyfleoedd amlddisgyblaethol i'r dysgwr gan edrych ar dystiolaeth am sut roedd y person yn byw a phwy ydoedd yn fiolegol a rhoi hynny mewn cyd-destun hanesyddol posibl.
Atal y Pydredd
Mae Atal y Pydredd yn archwilio sut y gall amryw gyflyrau effeithio ar sut y mae pethau yn pydru. Rhaid i'r defnyddiwr archwilio sut y gall lefelau gwahanol o ddŵr, pH, ocsigen a thymheredd effeithio ar ba mor gyflym y mae corff yn pydru. Y nod yw dod o hyd i'r cyflyrau y gellir cadw corff ynddynt a, felly, pennu pa mor hir y gallai'r corff fod wedi bod yn y gors.
Profion metel
Daethpwyd o hyd i rai eitemau metel gyda'r corff yn y Gors Las. Drwy ganfod pryd y cafodd yr eitemau hyn eu gwneud, gellid pennu pa mor hen yw'r corff. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, daethpwyd o hyd i eitemau metel y gwyddys eu bod yn deillio o'r Oes Haearn mewn cors arall gerllaw. Profwch y ddau set o eitemau mewn toddiannau asidig i weld eu cyfansoddiad a chymharu'r canlyniadau.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle amlddisgyblaethol gan gynnwys craffu ar hanes echdynnu metel a pham y gall cyfansoddiad metel ddarparu gwybodaeth werthfawr iawn i archeolegwyr.
Y Dail a'r Paill
Gweithgaredd adnabod a chategoreiddio planhigion yw Y Dail a'r Paill. Gan ddefnyddio dau ddull syml, gall y dysgwr ganfod pa blanhigion y daethpwyd o hyd iddynt yn y gors. Mae'r gweithgaredd yn gyfle i ddeall sut y mae mawndir yn gallu bod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth hanesyddol. Mae pethau wedi'u cadw mewn mawn yn rhoi gwybodaeth am yr hinsawdd, y tywydd, y planhigion a mwy dros gyfnod o amser. Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfleoedd amlddisgyblaethol gan alluogi'r dysgwr i edrych ar rolau hanesyddol planhigion. Yn yr enghraifft hon, bydd gwybodaeth y planhigion yn rhoi cliw er mwyn datrys dirgelwch y corff yn y gors.