|
|||||||||
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Cerrig milltir yn hanes yr Eisteddfod • Credir fod y cyfarfod eisteddfodol cyntaf wedi ei gynnal yng nghastell yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd yng Ngheredigion yn 1176. • Mae nifer yn credu bod tarddiad yr wyl i’w gweld yn y ddegfed ganrif pan oedd Hywel Dda yn frenin Cymru. • Yn y cyfnod hwn byddai beirdd a cherddorion yn cystadlu am sedd yn llys y brenin. • Byddai beirdd yn cystadlu mewn ymrysonfeydd am le yn llysoedd yr uchelwyr, hefyd. • Roedd bywoliaeth y beirdd yn dibynnu ar ennill yn yr ymrysonfeydd er mwyn cael nawdd gan y tywysogion a’r uchelwyr. • Yn y 15fed ganrif pan gynhaliwyd Eisteddfod yng Nghaerfyrddin gwaharddwyd teithwyr rhag cymryd rhan rhag iddyn nhw ddinistrio urddas yr Eisteddfod. • Yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 cyflwynwyd system lle roedd beirdd a cherddorion yn cael eu gosod yn ôl eu statws. • Yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd cymdeithas o "dderwyddon" sef beirdd a cherddorion a oedd yn galw’u hunain yn "Orsedd y Beirdd". • Wedi hyn y datblygodd yr Eisteddfod yn wyl ehangach. • Yn 1860 fe benderfynwyd creu eisteddfod ‘genedlaethol’ fel yr ydym ni yn ei hadnabod heddiw. • Yn 1861 cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf ar gyfer Cymru gyfan yn Aberdâr. • Yn 1881 ffurfiwyd Pwyllgor yr Eisteddfod ac mae’r pwyllgor hwn wedi trefnu’r eisteddfod yn flynyddol ers hynny. • Mae’r eisteddfod wedi ei chynnal yng Ngogledd a De Cymru bob yn ail ac eithrio 1914 a 1940. • Erbyn hyn mae’r Eisteddfod yn para am wyth diwrnod gyda chystadlu ar y Sul am y tro cynta yn 1999. • Syniad Iolo Morganwg (1747 - 1826) oedd yr Orsedd, yr ymrwymiad i heddwch, cadeirio a choroni beirdd, y cledd, y corn gwlad a’r corn hirlas. • I ddechrau doedd y berthynas rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd ddim yn un esmwyth iawn. • Y mae rhai prifeirdd wedi gwrthod ymuno a’r Orsedd - yn eu plith, T. H. Parry- Williams a Rhydwen Williams. • Yn 1937 cytunodd y ddau gorff i greu Cyngor yr Eisteddfod ac fe sefydlodd hwnnw wedyn Lys yr Eisteddfod Genedlaethol y gall unrhyw un fod yn aelod ohono. • Yn 1959 fe benododd y cyngor ddau drefnydd llawn amser, un i’r de a’r llall i’r gogledd. • Yn 1978 fe benodwyd cyfarwyddwr llawn amser a sefydlwyd swyddfa yng Nghaerdydd. • Erbyn hyn mae’r wyl wedi datblygu’n wyl enfawr ac mae cost cynnal yr eisteddfod yn sylweddol. • Mae llawer o ddadleuon wedi bod ynglyn â’r defnydd o’r iaith Saesneg ar y maes, ymweliadau gan y teulu brenhinol ac alcohol ar y maes. • Yn y saithdegau bu symudiad cryf i greu safle sefydlog i’r eisteddfod ond parhau yn wyl grwydrol a wnaeth. }
| |
|
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |