|
|||||||||
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Rhwng meini'r Orsedd Cerrig
milltir pwysig yn hanes Gorsedd y Beirdd • Mae’r Orsedd yn cynnwys beirdd, awduron, cerddorion ac artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r iaith Gymraeg, llenyddiaeth a diwylliant Cymru. • Mi allwch chi sefyll arholiad i ymnuno â'r Orsedd. • Gall unrhyw un sydd wedi graddio yn y Gymraeg fod yn aelod. • Gelwir ei haelodau’n dderwyddon ac maent yn gwisgo dillad gwyrdd, glas neu wyn yn ôl eu gradd - urdd ofydd, urdd bardd ac urdd derwydd. • Y rhai sydd yn gwisgo’r wisg wen yw’r rhai pwysicaf. • Yn ddiweddar galwodd Hywel Teifi Edwards am ychwanegu gwisg goch hefyd. • Mae’r Orsedd yn dod ynghyd yn ystod seremonïau fel y Cadeirio a'r Coroni ac adeg cyhoeddi Eisteddfod. • Defnyddir corn gwlad i alw ar bobol o bedwar ban byd i ddod yng nghyd ac wedyn mae gweddi’r orsedd yn cael ei llafarganu. • Mae gan yr Archdderwydd swyddogaeth bwysig gan mai ef sy’n dal y cledd uwchben y cystadleuydd buddugol wedi iddo gael ei gyrchu i’r llwyfan. • Bydd y cledd yn cael ei dynnu o’r wain deirgwaith wrth i’r archdderwydd alw ‘A oes heddwch?’ • Mae’r corn hirlas yn cael ei gyflwyno fel y gall yr Archdderwydd, sy’n sefyll ar y maen llog, yfed o win croeso’r ardal. • Cyflwynir basged o flodau i’r archdderwydd o dir a phridd Cymru. • Bydd plant yn perfformio dawns flodau yn ystod y seremonïau. • Am y tro cyntaf erioed bydd pob aelod yn cael pleidleisio i ddewis Archdderwydd yn 2001. • Sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Fehefin 22, 1792, gan gyfarfod gyntaf ar Fryn y Briallu yn Llundain. • Penderfynodd Iolo Morgannwg gynnal y cyfarfod cyntaf yn Llundain am ei fod yn credu ei fod yn cynrychioli’r hen fyd Brythonaidd a’i fod yn fodd i ddangos y traddodiad derwyddol i’r Saeson. • Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yng Nghymru ym Mryn Owen ym Morgannwg, 1795. • Aeth Iolo ati i sefydlu Gorsedd ym mhob ardal yng Nghymru. • Yn 1819 cysylltwyd yr Orsedd a’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan gynhaliodd Iolo seremoni yng ngardd gwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin. • Ni fu cysylltiad wedyn tan 1858 pan drefnwyd gorsedd ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Llangollen. • Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1888 ffurfiwyd Cymdeithas yr Orsedd yn cynnwys pwyllgor a swyddogion etholedig. • Penderfynwyd mai’r Gymraeg fyddai unig iaith y gymdeithas • Wrth i’r Eisteddfod dyfu daeth yr Orsedd yn amlycach ac yn elfen bwysig iawn o’r wyl. • Tri phaladr goleuni yn cyfarfod ar doriad gwawr ar ganol haf a chanol gaeaf I ffurfio llygad goleuni yw nod cyfrin yr Orsedd yn ôl Iolo Morganwg. •
Y delyn,offeryn cerdd traddodiadol Cymru, sy’n gyfeiliant i holl weithgareddau’r
Orsedd.• Mae Archdderwydd yn cael ei ethol am dair blynedd. Ni all person fod yn Archdderwydd ddwywaith yn olynol. • Rhaid i Archdderwydd fod yn Brifardd neu Brif Lenor. • Yr Archdderwydd yw pennaeth yr Orsedd ac is-lywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
| |
|
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |