|
|||||||||
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
|
Ardal hynod llawn hanes Atyniadau bro'r Eisteddfod
Dinbych Mae’r dref yn cael ei henwi yn Neddf Uno 1536 ond roedd yn dref bwysig am ganrifoedd cyn hynny. Y mae’r enw yn gyfuniad o’r geiriau Din sy’n golygu caer a bych yn golygu bach.. Un chwedl tu ôl I’r enw yw i Sion y Blodau ddefnyddio ei nerth anghyffredin i ladd anghenfil a elwid ‘y bych’ gan ddatgan yn fuddugoliaethus wedyn , ‘Dim bych!’ Hen enw arall ar y lle oedd Caledfryn a ddefnyddiwyd yn enw barddol gan William Williams (1801 –1869). Roedd gan y Tywysogion lys arall ar fryn ger Dinbych. Safai yn Ystrad Owen. Cludwyd dinasyddion estron i’r dref newydd gan symud holl boblogaeth Dyffryn Clwyd i’r ucheldir gan osod y tir i’r Normainiaid. Rhifau Ffôn Llyfrgell Dinbych (01745) 816313 Castell Dinbych (01745) 813385 Canolfan Hamdden (01745) 816311 • Castell Dinbych Un o gestyll Edward 1 yw Castell Dinbych. Cafodd
ei godi yn y drydedd ganrif ar ddeg gan un o brif swyddogion y brenin, Henry
de Lacy.Roedd yn safle pwysig gan ei fod wedi ei adeiladu dros dir Dafydd ap Gruffudd ac felly yn pwysleisio grym Lloegr dros Gymru. Dechreuwyd ar yr adeiladu wedi i Edward I drechu Llywelyn Ein Llyw Olaf mewn brwydr yn 1282. Yn ogystal â’r castell fe ffurfiwyd bwrdeistref Seisnig newydd o fewn waliau’r dref. Yn 1294 tarfwyd ar yr adeiladu pan gipiwyd y castell gan griw o Gymry. Mae’r gwaith adeiladu a wnaed wedyn yn wahanol i’r gwaith a gafodd ei wneud yn gynharach. Yn ystod ail ran yr adeiladu defnyddiwyd carreg wahanol a ffurfiwyd tyrrau uchel fel sydd yng nghastell Caernarfon. Oriau agor y castell: Llun – Gwener 10.00-17.30 Sadwrn a Sul 09.30-17.30 • Muriau’r dref Rhaid cael allwedd o lyfrgell Dinbych neu gan Geidwad y Castell pan fydd ar ddyletswydd i grwydro waliau’r dref. Rhaid talu blaendal sy’n cael ei ddychwelyd pan ddychwelir yr allwedd. Yn ystod y daith gwelir: • Twr yr Iarlles a Thwr y Goblin • Gweddillion Eglwys Iarll Caerlyr Dechreuwyd adeiladu’r eglwys ym 1578 gyda’r bwriad o greu eglwys Brotestannaidd i ddisodli Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Ni chafodd ei chwblhau gan i’r dasg o godi arian fethu oherwydd amhoblogrwydd yr iarll Gwariwyd yr arian a godwyd ar ymgyrch filwrol yn Iwerddon. Roedd y bobol leol yn gwrthwynebu’r adeilad ac yn dymchwel y gwaith yn aml. • Porth y Bwrdeisiaid Mae’r porth i’w weld wrth i chi grwydro’r bryn tua’r castell ac mae’n rhan o’r gaer a adeiladwyd gan Henry de Lacy i amddiffyn Dinbych yn y drydedd ganrif ar ddeg. Yma, mae amgueddfa fechan sy’n rhoi hanes Dinbych. • Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Dinbych Hen Neuadd y Sir a gafodd ei hadeiladu yn 1572. Fe’i haddaswyd yn ganolfan wybodaeth, llyfrgell, amgueddfa ac oriel gydag arddangosfa barhaol o hanes y dref ac yn cynnwys amrywiaeth o waith celf. Gellir prynu rhai eitemau. Oriau agor: Llun a Mercher 9.30 am – 7.00 am Mawrth a Gwener 9.30am – 5.00am Iau 10.30am – 5.00pm Sadwrn 9.00am – 1.00pm • Cofeb Dr Evan Pierce Yng nghanol y dref mae cofeb i’r meddyg o’r ddeunawfed ganrif a ddaeth i enwogrwydd adeg helynt y colera yn y 1830au. Dywedodd yr hanesydd lleol, R.M. Owen, fod cred iddo achub pobol Ddinbych adeg y colera ar ei ben ei hun. Ond dywed Mr Owen fod tystiolaeth yn dangos fod yma feddygon go iawn adeg y colera. Evan Pierce a gododd y gofgolofn iddo ef ei hun a hynny tua ugain mlynedd cyn iddo farw. Roedd yn byw mewn plasdy gyferbyn ac felly’n gallu gweld y gofgolofn o’i ffenest bob dydd. • Eglwys Llanfarchell (Eglwys Wen ar lafar) Dyma eglwys plwyf Dinbych ac mae ar gyrion y dref. Mae’n adeilad hardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg ac ymhlith yr enwogion lleol y mae ei fedd yno y mae Twm o’r Nant. Mae cofeb i Humphrey Llwyd. • Egwlys Dyfnog Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch Mae’r eglwys hon tua thair milltir o Ddinbych i gyfeiriad Rhuthun ym mhentref Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Yn yr eglwys gellir gweld ffenestr "Coeden Jesse" a gafodd ei chreu yn 1533. Yn ystod y Rhyfel Cartref cafodd ei chuddio mewn cist fawr sydd yn awr dan y ffenest. Mae crochendy yn y pentref hefyd a arferai fod yn efail. • Llys Gwenllian Tomen ar y dde ar y ffordd o Ddinbych i Brion. Bu’r llys yn gartref i ferch Llywelyn, Gwenllian de Lacy. Gwylltiodd y ffordd y cafodd ei hystad hi ei rhannu gan y Goron y Tywysog Dafydd ap Gruffudd a bu’n rhannol gyfrifol am wrthryfel 1282. • Brodordy Dinbych Hen abaty’r Brodyr Gwyn ac mae yng ngwaelod Stryd y Dyffryn yn Ninbych. Diddymwyd yn 1534 ond parhau fel ysgubbor, bragdy ac ystordy gwlan. Gwnaed difrod mawr iddo gan dân yn 1898. • Plas Clough Codwyd gan Richard Clwch (Clough), ail wr Catrin o Ferain
| |
|
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |