BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 16 Rhagfyr 2010

Speed i efelychu dylanwad Hughes - Hartson

Mae John Hartson yn credu y bydd Gary Speed yn cael yr un effaith ar dîm Cymru a'r hyn a gafodd Mark Hughes yn ei amser wrth y llyw.

Rheolwr newydd Cymru Gary Speed

Cafodd Speed ei benodi'n rheolwr newydd y tîm cenedlaethol ddydd Mawrth, gan guro Hartson, Lars Lagerback, Chris Coleman a Brian Flynn i'r swydd.

Chwaraeodd Hartson wrth ochr Speed o dan Hughes wrth i Gymru ddod o fewn buddugoliaeth at gyrraedd rowndiau rhagbrofol Ewro 2004.

Parodrwydd y chwaraewyr i roi popeth i'r rheolwr oedd cyfrinach y llwyddiant hynny, yn ôl Hartson, ac mae'r cyn-ymosodwr yn disgwyl i Speed hawlio'r un parch gan y garfan bresennol.

"Un o'r prif resymau mae Gary wedi cael y swydd ydi achos ei fod mor uchel ei barch ymysg y chwaraewyr," dywedodd Hartson, enillodd 51 cap dros Gymru.

"Mae o'n rhywun fydd y chwaraewyr yn gallu edrych lan ato, fel gwnes i gyda Martin O'Neill gyda Celtic a Mark Hughes gyda Chymru.

"Mae gen i gymaint o barch atyn nhw felly roeddwn i'n fodlon rhedeg i'r eithaf iddyn nhw.

"A dyna beth fydd prif gryfder Gary yn y swydd - mae pawb yn ei barchu ac felly 'dw i'n siŵr fydd y chwaraewyr yn trio ychydig bach caletach."

Yn naturiol, dywedodd Hartson ei fod yn siomedig iawn na chafodd ei benodi yn rheolwr ei wlad, ond cymeradwyodd penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i droi at Speed.

"Mi ddois i'n eithaf agos at gael y swydd, mi wnes i bopeth o'n i'n gallu i'w chael hi," meddai Hartson, sydd wedi ennill pob cymhwyster hyfforddi Uefa.

"Mi ges i gyfweliad dwy awr a hanner o hyd a 'dw i'n teimlo mi wnes i argraff dda iawn ar y cynghorwyr i gyd.

"Mi wnes i drio fy ngorau ond doedd hi ddim i fod. 'Dw i'n falch iawn bod nhw wedi rhoi'r swydd i Gymro a chewch ddim fwy o Gymro na Gary Speed.

"Bron i 90 cap i'w wlad ac mi wnaeth o ragori fel chwaraewr a 'dw i'n gobeithio bydd o'n gallu gwneud yr un peth fel rheolwr."

Tasg gyntaf Speed fydd penodi tîm hyfforddi. John Carver, oedd yn ei gynorthwyo yn Sheffield United, yw un o'r enwau sydd wedi eu crybwyll hyd yma.

Nid yw'r swydd yna o ddiddordeb i Hartson, ond mae'r brodor o Abertawe yn hyderus y daw ei gyfle i gychwyn ei yrfa fel rheolwr cyn hir.

"Mater o ddewis y swydd gywir yw hi," meddai.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy