ChwaraeonPêl-droed Abertawe Caerdydd Casnewydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru Pêl-droed Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Mae golwr Portsmouth, David James wedi datgan y bydd yn holliach ar gyfer y gêm yn erbyn Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr brynhawn Sadwrn.
Mae James wedi colli tair gêm olaf Pompey gan gynnwys y golled yn erbyn Fulham ar Barc Fratton ddydd Sul ond wedi dechrau ail-ymarfer.
Ond dywed golwr Lloegr ei fod yn ffyddiog y bydd yn y tîm i wynebu'r Adar Gleision yn Wembley.
"Mae'n rhyddhad i mi oherwydd 'dwi eisiau chwarae yn y rownd derfynol," medd James.