|
Ledley sgoriodd unig gôl y gêm i sicrhau buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Barnsley yn y rownd gyn derfynol.
"Honno o bosib oedd y gôl orau dwi erioed 'di sgorio," meddai Ledley.
"Efallai na fydd rhai ohonom yn cael y cyfle i wneud hyn felly rhaid i ni sicrhau ei fod yn ddiwrnod arbennig.
"Gobeithio y gallwn ni fynd i Wembley gyda phawb yn holliach ac yn brwydro am eu lle yn y tîm.
"Mae'n dda bod Paul Parry yn ei ôl. Mae e lan 'da fi fel y prif sgoriwr a gobeithio y bydd yn perfformio ar y dydd."
 |