 Fe hawliodd Tom James o Goedpoeth ger Wrecsam yr ail fedal aur i Gymru wrth i bedwarawd heb lywiwr Prydain guro Awstralia o drwch blewyn mewn rownd derfynol hynod gyffrous.
Buddugoliaeth y rhwyfwyr oedd un o uchafbwyntiau diwrnod llwyddiannus i dîm Prydain wrth iddyn nhw ennill pedair medal aur.
Ar y trac seiclo fe enillodd Bradley Wiggins a Chris Hoy'r fedal aur gyda Ross Edgar yn cipio'r fedal arian ac efydd yr un i Steven Burke a Chris Newtown.
Draw yn y Ciwb Dwr enillodd Rebecca Adlington ei hail fedal aur gan dorri'r record byd wrth ennill y ras 800m dull rhydd.
Yn ôl ar y dŵr, fe enillodd criw sgwlio dwbl dynion a merched Prydain fedal efydd yr un.
Ond roedd yna siom i athletwyr Prydain yn y Nyth.
Methodd Phillipa Roles o Gastell Nedd a chyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth y ddisgen.
Roedd tafliad gorau Roles o 57.44m yn brin o'r isafswm o 61.51m oedd angen ei gyrraedd er mwyn parhau yn y gystadleuaeth.
Ac roedd hi'n ddiwrnod rhwystredig arall i Kelly Sotherton yn yr heptathlon wrth iddi ddisgyn i'r pumed safle ar ôl perfformiad siomedig yn y naid hir gyda dau gymal o'r gystadleuaeth yn weddill.
 |