|
Phelps oedd ar y blaen o ddechrau'r ras i sicrhau'r cyntaf o wyth medal aur posib y gall ennill yn ystod y Gemau Olympaidd.
Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, George W Bush yn bresennol i wylio buddugoliaeth Phelps.
Colli oedd hanes tîm hoci merched Prydain, oedd yn cynnwys y Gymraes Sarah Thomas, o 5-1 yn erbyn yr Almaen.
Bu'n rhai i ferched Prydain fodloni gyda'r bedwerydd safle yng nghystadleuaeth saethyddiaeth tîm, gyda Ffrainc yn eu trechu i gipio'r efydd.
Mae'r bocswyr Prydeinig Billy Joe Saunders a Bradley Saunders wedi sicrhau eu lle yn y rownd nesaf wedi iddynt ennill eu gornestau.
Yn y gystadleuaeth pêl-droed, sgoriodd Ronaldinho ddwy gôl ym muddugoliaeth Brasil o 5-0 yn erbyn Seland Newydd.
Mae'r deiliad, yr Ariannin yn parhau ar fri Grŵp A wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Awstralia.
Tsiena sydd ar frig y tabl medalau wedi'r ail ddiwrnod o gystadlu gyda chwe medal aur.
 |