|
Bu'r bocsiwr o Lundain ar y blaen o'r cychwyn cyntaf yn erbyn Emilio Correa o Cuba yn y rownd derfynol.
Ychwanegodd Tim Brabants fedal efydd i'r aur enillodd ddydd Gwener ar ôl gorffen yn drydydd yn ras 500m y caiac.
Collodd Sarah Stevenson yn rownd gyn derfynol y taekwondo yn erbyn Maria del Rosario Espinoza o Fecsico.
Yn gynharach dyfarnwyd bod Stevenson wedi colli gornest dadleuol yn erbyn Chen Zhong o Tsiena yn rownd yr wyth olaf.
Ond bu protest Prydain yn erbyn y canlyniad yn llwyddiannus ac roedd Stevenson yn ôl yn y gystadleuaeth.
Ac yn ddiweddarach fe sicrhaodd Stevenson fedal efydd - medal cyntaf Prydain yn y taekwondo.
Seithfed oedd y plymiwr 14 oed, Tom Daley yn y gystadleuaeth platffordm 10m.
Yr Ariannin sicrhaodd y fedal aur yn gystadleuaeth bêl-droed i ddynion am yr ail waith yn olynol wedi buddugoliaeth yn erbyn Nigeria.
Ymosodwr Benfica, Angel di Maria sgoriodd unig gôl y rownd derfynol wedi 58 munud o'r gêm yn y 'Nyth.'
Roedd Brasil eisoes wedi sicrhau'r fedal efydd ddydd Gwener wedi buddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg gyda ymosodwr Manchester City, Jô yn sgorio dwy gôl.
Yn dilyn buddugoliaeth o 5-2 yn erbyn De Corea, gorffennodd tîm hoci dynion Prydain yn y pumed safle.
Hon oedd eu perfformiad gorau yn y Gemau Olympaidd ers cipio'r aur yn Seoul ym 1988.
Yn ddiweddarach Yr Almaen gipiodd y fedal aur wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Sbaen.
 |