|
Bydd y meddyg, oedd eisoes wedi ennill pencampwriaethau Ewrop a'r Byd, yn cystadlu yn y ras 500m ddydd Sadwrn.
Ac roedd medal arian i Heather Fell yn y pentathlon modern, cystadleuaeth sydd wedi bod yn un llwyddiannus i ferched Prydain ers 2000.
Yn gynharach roedd siom i Shanaze Reade yng nghystadleuaeth beicio BMX wedi iddi gwympo ar y lap olaf.
Dioddefodd Reade anaf i'w llaw wedi'r gwymp a hynny ar ôl dechrau da i'r ras.
Sicrhaodd Usain Bolte trydydd medal aur a record byd arall gyda Jamaica yn ennill ras y 4x100m.
Mae'r bocsiwr Jamie DeGale drwodd i rownd derfynol y pwysau canol wedi ei fuddugoliaeth yn erbyn Darren Sutherland o Iwerddon.
Mae DeGale, fydd yn wynebu Emilio Correa o Cuba yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn, yn sicr o fedal arian o leiaf.
Ond roedd siom i'r ddau focsiwr arall o Brydain - David Price a Tony Jeffries.
Bydd yn ddau yn gorfod bodloni gyda medalau efydd, gyda'r Gwyddel Kenny Egan yn trechu Jeffries yn rownd gyn derfynol pwysau is-drwm.
Colli oedd hanes Gwyddel arall, Paddy Barnes yn erbyn Zou Shiming o Tsiena. Gorffennodd tîm hoci merched Prydain - oedd yn cynnwys y Gymraes Sarah Thomas - yn chweched wedi iddynt golli o 2-0 yn erbyn Awstralia.
 |