|
Mae Prydain yn drydydd ar y rhestr medalau ac mae penaethiaid y tîm wedi gosod targed newydd o ugain medal aur cyn y daw'r cystadlu i ben ddydd Sul.
Sicrhaodd yr Unol Daleithiau y fedal aur yng nghystadleuaeth pêl-foli ar y traeth i ferched wedi buddugoliaeth Kerri Walsh a Misty May-Treanor yn erbyn Tian Jia a Wang Jie yn y rownd derfynol.
Dywedodd Walsh - gipiodd y fedal aur gyda May yn Athen bedair blynedd yn ôl - bod y tywydd anffafriol wedi eu helpu.
Bu'n rhaid i Phillips Idowu fodloni gyda medal arian yn y naid driphlyg gyda Nelson Evora o Bortiwgal yn cipio'r fedal aur.
Ac mae timau Prydain a'r Unol Daleithiau allan o'r 4x100m yn dilyn camgymeriadau wrth drosglwyddo'r baton yn ystod y rhagbrofion.
Ac mae Llywydd yr IOC, Jacques Rogge wedi beirniadu Usain Bolt am ei ddathliadau wedi iddo gipio'r fedal aur yn y 200m.
Dywedodd Rogge bod Bolt wedi dangos diffyg parch i'w gyd athletwyr wedi'r ras.
 |